Mae adroddiadau fod pum aelod o deulu o Gasnewydd wedi cael eu lladd mewn damwain car yn Saudi Arabia.

Roedd y teulu wedi bod ar bererindod i Mecca ac yn teithio mewn tacsi ar y pryd pan drawodd y tacsi i mewn i bont.

Llwyddodd bachgen bach blwydd oed i oroesi’r ddamwain trwy gael ei gysgodi gan ei dadcu, medd papur y South Wales Argus.

Yn ôl y papur bu farw Shaukat Ali Hayat, 56, ei wraig Abida, 47, y mab Mohammed Isshaq, 33, y ferch Saira Zenub a gwraig Mohammed, Bilques, a oedd yn feichiog,

Roedd y teulu’n dod o Heol Alexandra, Pillgwenlli ac mae perthnasau o Gasnewydd wedi teithio i Saudi Arabia er mwyn dod â’r bachgen bach, Mohammed Eisa Danial Hayat, yn ôl i Gymru.

Mae disgwyl i’r pum aelod o’r teulu gael eu claddu heddiw mewn mynwent adnabyddus ym Medina, ar ôl i deulu brenhinol Saudi Arabia ymyrryd yn dilyn y newyddion am y ddamwain.