Fe fydd y Pab Bened XVI yn rhoi’r gorau i’r swydd ddiwedd y mis hwn. Mae’n dweud ei fod yn rhy hen i gario ymlaen yn bennaeth yr Eglwys Babyddol. .
Fe fydd yn rhoi’r gorau i’r gwaith ar Chwefror 28, yn ôl llefarydd ar ran y Fatican.
Mewn datganiad, mae’r Fatican yn dweud na allai’r Pab barhau yn y gwaith oherwydd ei wendid corfforol a’i oedran mawr. Mae’n 85 oed, ac fe fydd yn gadael y swydd yn wag nes y bydd olynydd yn cael ei ddewis.
Bened XVI yw’r Pab cynta’ i ymddiswyddo mewn bron i 600 mlynedd. Dylai pontiff newydd cael ei benodi cyn diwedd mis Mawrth.
‘O bwys mawr i’r eglwys’
Fe wnaeth Bened XVI ei ddatganiad yn Lladin yn ystod cyfarfod o gardinaliaid y Fatican fore heddiw.
Dywedodd fod swydd y Pab yn gofyn am “gadernid meddwl a chorff”.
“Ar ôl archwilio fy nghydwybod dro ar ôl tro gerbron Duw, rwyf wedi dod i’r penderfyniad sicr nad yw fy nghryfderau oherwydd fy oedran bellach yn addas ar gyfer ymgymryd â’r weinidogaeth mewn modd digonol.”
Dywedodd fod ei benderfyniad yn un “o bwys mawr i fywyd yr eglwys”.
Yn 2005, Bened oedd y Pab hynaf i gael ei ethol ers 300 o flynyddoedd, yn 78 oed.
Olynydd
Mae rhai enwau eisoes wedi cael eu crybwyll i fod yn olynydd i Bened, gan gynnwys y Cardinal Angelo Scola, archesgob Milan, y Cardinal Christoph Schoenborn, archesgob Fienna a’r Cardinal Marc Ouellet, pennaeth esgobion swyddfa’r Fatican.
Mae hawl gan bob cardinal o dan 80 i gymryd rhan yn y bleidlais, sy’n cael ei chynnal yn y Capel Sistine.
Caiff y papurau pleidleisio eu llosgi a chaiff mwg ei ryddhau ar ôl pob rownd.
Mae mwg du yn dynodi nad oes yna ymgeisydd wedi cael ei ethol, a chaiff mwg gwyn ei ryddhau unwaith mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud.
Dywedodd Bened yn 2010 y byddai’n rhoi’r gorau i’r swydd pe bai’n dod yn rhy hen neu’n rhy sâl.