Mae disgwyl i gyn-blismon a newyddiadurwraig ymddangos gerbron Llys Ynadon San Steffan y bore yma, wedi eu cyhuddo mewn perthynas â thaliadau llwgr am wybodaeth.
Mae’r cyhuddiadau yn erbyn golygydd amddiffyn y Sun, Virginia Wheeler a’r cyn-blismon gyda Heddlu Llundain, y Cwnstabl Paul Flattley, yn ymwneud â derbyn gwybodaeth am farwolaeth merch 15 oed.
Maen nhw wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Mae yna honiadau bod Flattley wedi derbyn gwerth o leaif £4,000 mewn sieciau a £2,450 mewn arian parod am wybodaeth rhwng mis Mai 2008 a mis Medi 2011.
Mae Wheeler wedi ei chyhuddo o gynllwynio gyda Flattley.