Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud y bydd y gwasanaeth yn ystod y streic yfory yn debyg i’r hyn sy’n cael ei ddarparu ar ŵyl y banc.
“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwneud popeth yn ei allu i amddiffyn y ddarpariaeth fydd ar gael ac wedi cynllunio i sicrhau y bydd gofal a diogelwch cleifion yn parhau yn ystod 24 awr y gweithredu diwydiannol,” meddai Neil Bradshaw, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yr holl wasanaethau iechyd hanfodol a brys yn cael eu darparu ar 30 Tachwedd. Bydd y rhain yn cynnwys gofal brys, triniaeth canser a dialysis arennol.”
Dywedodd fod y rhan fwyaf o “dderbyniadau dewisol i’r ysbyty” wedi’u gohirio am y tro a’r mwyafrif o glinigau cleifion allanol wedi’u canslo. Mae llythyron wedi eu hanfon at gleifion yn egluro’r sefyllfa.
“Os ydych yn cael llythyr i ganslo apwyntiad, ffoniwch y rhif ffôn ar eich llythyr i ail-drefnu’r apwyntiad. Os nad ydy cleifion wedi cael gair i ddweud bod eu hapwyntiad wedi’i ganslo cyn 30 Tachwedd, dylen nhw ddod i’r ysbyty fel arfer,” meddai.
Dywedodd y byddai’r derbyniadau brys a thriniaethau yn yr Adrannau Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau yn parhau. Ond, oherwydd bod y gwasanaethau hyn yn brysur iawn – mae’n annog cleifion i feddwl yn ofalus cyn deialu 999 am ambiwlans brys neu fynd yn syth i’r Adran Achosion Brys (A&E).
Bydd meddygfeydd ar agor ac mae meddygon teulu yn gwybod na fydd gwasanaethau patholeg na radioleg ar gael iddyn nhw ar y diwrnod yma. Bydd y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yng Ngogledd Cymru yn darparu gwasanaeth gofal brys.
Bydd Llinell Gymorth ychwanegol ar gael ar 30 Tachwedd i helpu delio ag ymholiadau cyffredinol. Y rhif ydy 01745 448288.