Mae’r Cymry yn gwario llai o arian bob wythnos ar gost cynnal eu cartrefi na rhannau eraill o Brydain, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw.

Yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol yr ONS, roedd bob tŷ yng Nghymru yn gwario £394 yr wythnos, ar gyfartaledd, rhwng 2008 a 2010, tra bod cartrefi ar draws Prydain yn gwario £466.50 yr wythnos ar gyfartaledd.

Gwariant cartrefi Cymru oedd yr ail isaf ar y rhestr o ranbarthau ar draws y Deyrnas Unedig, gyda’r gwariant isaf am y cyfnod wedi ei gofnodi yng ngogledd ddwyrain Lloegr, lle’r oedd gwariant yn £372.70 yr wythnos ar gyfartaledd.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dagnos bod cost rhedeg y cartref wedi codi ar draws y Deyrnas Unedig ers 2009, er gwaetha’r ffaith fod y costau wedi disgyn rhywfaint rhwng 2008 a 2009.

Y prif gostau

Mae’r ffigyrau’n dangos mai gwariant ar drafnidiaeth yw’r faich mwyaf ar gartrefi ar draws y Deyrnas Unedig erbyn hyn, gyda £64.90 yn cael ei wario’n wythnosol yn 2010 ar drafnidiaeth – cynnydd o £6.50 (11%) ar 2009.

Costau nwy a thrydan  yw’r ail wariant mwyaf i gartrefi, yn ôl yr ONS, gyda’r gost wedi cynyddu o £57.30 yn 2009, i £60.40 yn 2010.

Gwariant ar hamdden a diwylliant yw’r trydedd gost fwyaf i gartrefi ar draws y Deyrnas Unedig, gyda hwnnw’n cyrraedd £58.10 yr wythnos yn 2010.

Ymhlith y costau hamdden a diwylliant roedd talu am wyliau, prynu setiau teledu, fideo a ffioedd teledu lloeren, yn ogystal â phrynu phapurau newydd, llyfrau a deunydd ysgrifennu.

Llundain yw’r lle drutaf i fyw, yn ôl yr ystadegau, lle mae’n costi £577.80 yn wythnosol i redeg cartref  yno.