Fe fydd gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal munud o dawelwch heddiw er cof am reolwr tîm pêl-droed Cymru Gary Speed a fu farw ddydd Sul.
Cafwyd hyd i’r pêl-droediwr yn ei gartref yn Sir Gaer – mae’n debyg ei fod wedi crogi ei hun.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin ei farwolaeth fel un amheus.
Mae Jocelyn Davies, Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydd gwleidyddion yn talu teyrnged i Gary Speed cyn sesiwn llawn y Senedd ym Mae Caerdydd prynhawn ma.
Dywedodd Jocelyn Davies: “Mae pawb wedi tristau yn ofnadwy ar ôl clywed am Gary Speed ac fe fyddwn ni i gyd yn estyn cydymdeimlad i’w deulu.”