Mae’r cricedwr Jack Leach wedi dod adref o Dde Affrica ar ôl bod yn dioddef o sepsis.
Dydi’r troellwr llaw chwith, sy’n dioddef o gyflwr Crohn’s, ddim wedi chwarae ar y daith oherwydd ffliw a salwch stumog.
Mae’n un o nifer o gricedwyr sydd wedi’u taro’n wael gan salwch stumog yn ystod y daith, ar ôl bod yn yr ysbyty yn Seland Newydd yn ystod rhan gyntaf taith y gaeaf.
Gwenwyn gwaed yw sepsis, ac fe all beryglu bywydau yn yr achosion mwyaf difrifol.
Y gobaith yw y bydd e’n gallu chwarae eto pan fydd Lloegr yn teithio i Sri Lanca ym mis Mawrth.