Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei waith i hyrwyddo iechyd a lles staff.

Derbyniodd y Cyngor wobr aur Safon Iechyd Corfforaethol mewn seremoni yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae’r safon yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru ac mae’r wobr yn adlewyrchu’r ffaith fod materion iechyd a lles y gweithlu yn greiddiol i holl waith y Cyngor.

Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, gydag oddeutu 7,000 o staff llawn-amser a rhan-amser yn gweithio ym mhob math o feysydd, mae iechyd a lles yn hynod o bwysig i’r Cyngor. Dyfarnwyd y wobr aur i’r Cyngor oherwydd gwaith sydd wedi ei wneud i hyrwyddo pob agwedd o iechyd gan gynnwys cynlluniau i helpu atal ysmygu, hyrwyddo cynlluniau cadw’n heini ac edrych ar ôl iechyd corfforol, iechyd galwedigaethol, atal bwlio yn y gweithle a chymorth gydag iechyd emosiynol.

Mae astudiaethau yn dangos fod buddiannau sylweddol ynghlwm â chynlluniau i hyrwyddo iechyd staff unrhyw gwmni neu sefydliad, a’i fod yn arwain at elw ar fuddsoddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Seimon Glyn, Arweinydd Portffolio Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd: “Mae’r dyfarniad hwn yn gydnabyddiaeth o’r camau breision a gymerwyd gan y Cyngor i ddiogelu a hybu iechyd a lles staff ac i dargedu materion allweddol yn ymwneud a blaenoriaethau Her Iechyd Cymru.”

LLUN: Cyngor Gwynedd yn derbyn gwobr aur Safon Iechyd Corfforaethol