Mae pobl yn byw’n hirach yng Nghymru ond mae gor-yfed ac ysmygu yn cael effaith ar ansawdd bywyd nifer o bobol, yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.

Yn ei adroddiad blynyddol, mae Dr Tony Jewell yn dweud bod iechyd pobol yng Nghymru yn dda, ar y cyfan, ac yn parhau i wella. Dywedodd bod na ostyngiad wedi bod yn nifer y marwolaethau (o dan 65 oed) o ganser ac afiechydon yn ymwneud â chylchrediad y gwaed.

Ond mae na bryder bod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn gweld gwell cynnydd o safbwynt iechyd pobl, ac mae cynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i afiechydon yr iau a sirosis.

Ysmygu

Mae ysmygu yn parhau i fod yn un o’r brif achosion am farwolaethau a iechyd gwael yng Nghymru, ynghyd â alcohol, gordewdra, a diffyg cadw’n heini.

Dywedodd Dr Tony Jewell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y posibilrwydd o wahardd ysmygu mewn ceir pan mae plant yn bresennol ac yr hoffai weld mwy yn cael ei wneud i atal plant rhag dechrau ysmygu.

Er hyn, roedd yn croesawu’r ffaith fod yna leihad yn nifer y bobol ifanc sy’n yfed neu’n ysmygu.

Pydredd dannedd mewn plant

Mae Dr Tony Jewell yn awgrymu yn ei adroddiad y dylid ychwanegu fflworid at ddŵr er mwyn gwella dannedd plant.

Dywedodd bod Cymru “ar ei hôl hi” o’i chymharu â gweddill y DU o ran pydredd dannedd mewn plant ac y bydd y Llywodraeth  yn “ceisio gwneud popeth o fewn ei allu i wella’r sefyllfa”.

Mae plant sy’n byw mewn ardaloedd llai breintiedig “yn fwy tebygol o brofi pydredd dannedd” ac yn fwy tebygol o gael mwy o ddannedd drwg na’u cyfoedion mewn ardaloedd mwy breintiedig, meddai.

Gydag amser disgwylir i’r ffigwr hwn ostwng ar draws y wlad, meddai wrth i fflworid gael ei ddefnyddio gan fwy o blant i frwsio’u dannedd a thrwy well iechyd y geg.

Cynllun Gwên – ‘Fflworid’

Mae Dr Tony Jewell eisoes wedi ymweld  â Chynllun Gwên yn  Ysgol Gynradd Herbert Thompson, Trelái i weld y rhaglen ar waith.

Mae gweithwyr cymorth iechyd deintyddol yn gweithredu rhaglen o frwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn ysgolion ac yn darparu brwshys dannedd a phast dannedd i blant ysgol o dan y cynllun ynghyd â chynnig cyngor ar iechyd y geg.

Tlodi – ‘iechyd gwael’

Mae’n dweud fod  targedu ardaloedd difreintiedig yn “bwysig gan fod tlodi yn un o achosion mwyaf amlwg iechyd gwael.”

Nid yw’r cymunedau difreintiedig yn gwella eu disgwyliad oes ar yr un raddfa â’r rhai mwy breintiedig.  Y rheswm am hynny yw’r cynnydd yn yr anghydraddoldebau rhwng y cyfoethog a’r tlawd, meddai’r adroddiad.

Dywedodd y gweinidog iechyd Lesley Griffiths ei bod yn croesawu’r adroddiad ac y byddai’n galw ar y GIG yng Nghymru i edrych ar ffyrdd i wella iechyd cymunedau, yn enwedig cymunedau difreintiedig.