Fe fydd aelodau Unison yng Nghymru yn derbyn papurau pleidleisio heddiw dros gynnal streic mewn protest yn erbyn newidiadau arfaethedig i gynlluniau pensiynau’r sector cyhoeddus.
Mae’r Undeb yn galw ar aelodau i bleidleisio ‘ie’ dros weithredu diwydiannol.
Mae gweithwyr iechyd, llywodraeth leol a swyddogion addysg yng Nghymru yn cymryd rhan yn y bleidlais gweithredu diwydiannol fwyaf yn hanes Prydain. Mae’r cynlluniau arfaethedig yn golygu y bydd gweithwyr yn gweithio am gyfnod hirach, yn talu mwy ac yn derbyn llai o bensiwn pan maen nhw’n ymddeol.
“Rydan ni eisiau pleidlais ‘ie’ yng Nghymru,” meddai Paul O’Shea, ysgrifennydd UNISON Cymru cyn egluro mai “treth ar weithwyr cyflog isel” yw’r cynlluniau mewn difrif yn hytrach na chynlluniau pensiwn “gyda phob ceiniog yn mynd at ddiffygion ariannol dirwasgiad y bancwyr.”
‘Digon yw digon’
Mae disgwyl i dros filiwn o weithwyr sector cyhoeddus bleidleisio o blaid cynnal streic wythnos nesaf gan gynnwys nyrsys, swyddogion prawf, gweithwyr cymdeithasol, cymorthyddion dysgu, a glanhawyr ysbyty.
Fe fydd y canlyniad yn dod ar Dachwedd 3 – gan roi cyfle i weithwyr fynd a’r streic ar ddiwrnod gweithredu TUC ar 30 Tachwedd.
“Cam olaf yw gweithredu wastad. Ond, mae wyth mis o drafodaethau wedi mynd i unlle. Digon yw digon. Mae ein haelodau’n gwneud eu gwaith i wasanaethu cymunedau – dydyn nhw ddim eisiau peri niwed i’r cyhoedd.
“Ond, maen nhw’n gwybod y gallan nhw gyfrif ar gefnogaeth pobol leol yn eu brwydr dros bensiynau.”