Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gyrru pobol ifanc i hunan-niweidio, yn ôl un ferch sydd wedi bod trwy’r profiad.

Wrth siarad â golwg360 fel rhan o ymgyrch codi ymwybyddiaeth elusen yr NSPCC, mae Beth (dyw hi ddim yn awyddus i ddatgelu ei henw iawn) yn dweud ei bod hi wedi troi at niweidio’i hun ers pan oedd hi’n ei harddegau.

Ddiwedd yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddwyd adroddiad sy’n awgrymu bod y nifer y plant sy’n cael eu trin mewn ysbytai am hunan-niweidio yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.

“Mae pryderon a gofidiau yn cael eu chwyddo pan maen nhw’n cael eu sgrifennu ar wal Facebook rhywun, rhywbeth gall rhywun gyfeirio ato,” meddai Beth.  

“Oherwydd y cyfryngau cymdeithasol a bod pobol yn ymwybodol bod hunan-niweidio yn bodoli, mae’n hawdd i bobol droi ato.

“Mae rhyddid rhag pwysau’r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig,” meddai Beth wedyn.

“Er bod cyfryngau cymdeithasol yn wych o ran cysylltu â phobol, maen nhw hefyd yn chwarae rhan fawr o ran gwneud i bobol feirniadu eu hunain yn rhy llym wrth gymharu eu hunain ag eraill.

“Y stigma sy’n atal pobol rhag gwrando ar broblemau pobol eraill, sydd yn troi pobol at hunan-niweidio, ac mae’n atal pobol rhag siarad allan.”