Mae mudiad iaith wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r Ombwdsmon Ariannol wedi i HSBC ddiddymu cyfraniadau ariannol i Gymdeithas yr Iaith am gyfnod yn dilyn llwyddiant i’w orfodi i ddarparu ffurflen Gymraeg.

Ym mis Mai eleni, bygythiodd y banc gau cyfrifon banc Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi’r mudiad mynnu derbyn ffurflen Gymraeg. Wedi’r ffrae, anfonodd y banc ffurflen Gymraeg gan roi tan ganol mis Hydref iddyn nhw ymateb.

Ond, am ddeuddydd, fe gaeodd y cwmni cyfrif y mudiad ar gam gan feddwl bod y ffurflenni heb gael eu dychwelyd mewn pryd. Ymddiheurodd swyddogion HSBC, ac ail-agor y cyfri, ond, yn y cyfamser, roeddynt wedi dileu archebion banc cannoedd o aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas, a dderbyniodd llythyrau uniaith Saesneg gan y banc yn eu hysbysu bod y cyfrif wedi cael ei gau.

Mae cyfrif y mudiad bellach yn gweithio’n iawn, ond mae’r mudiad wedi gwneud cwyn yn dilyn yr holl drafferthion y maent wedi eu dioddef.

Y gŵyn

Yn y gŵyn swyddogol i’r Ombwdsmon, medd y mudiad:

* Yn gyntaf, roedd rhaid i ni frwydro i sicrhau bod y ffurflenni Safeguard yn cael eu darparu yn Gymraeg. Ar fwy nag un achlysur, gwrthododd HSBC eu darparu yn Gymraeg. Roedd rhaid i ni apelio at Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a mynd at y wasg i gwyno am eu hagwedd.

* Achosodd y bygythiad o gau ein cyfrif banc – sy’n hanfodol i fodolaeth ein mudiad – ynghyd â’r holl lythyru, galwadau ffôn, paratoi datganiadau i’r wasg a phledio gyda’r banc, straen ar ein staff a’n gwirfoddolwyr.

* heb roi gwybod i ni, caeodd HSBC ein cyfrif … a chymerodd gryn amser iddyn nhw gadarnhau mai nhw oedd ar fai… Dywedodd y banc wrthym, wedi iddyn nhw ail agor y cyfrif, na fyddai unrhyw archebion banc yn cael eu heffeithio gan hyn ac mai dim ond ychydig o gannoedd o bunnau oedd heb eu prosesu’n iawn o ganlyniad i gau’r cyfrif.

* Achosodd hyn lawer iawn o straen a phryder i’n staff a’n gwirfoddolwyr oedd yn pryderu na fyddai modd talu staff a biliau. Yr wythnos ganlynol, derbyniom alwadau ffôn a negeseuon gan ein haelodau sy’n bancio gyda HSBC yn rhoi gwybod i ni eu bod wedi derbyn llythyr uniaith Saesneg gan HSBC yn rhoi gwybod iddynt fod ein cyfrif banc wedi cau a bod eu harchebion banc nhw aton ni yn cael eu diddymu…

* Effeithiodd y digwyddiadau hyn yn negyddol ar ein delwedd ymysg ein haelodau ynghyd ag achos rhagor o straen a phryder.