A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, mae un fam yn benderfynol o greu lle diogel i famau siarad am eu profiadau.

Leri Foxhall sy’n rhedeg Iogis Bach, menter sy’n cynnig sesiynau ioga a thylino i fabis a’u rhieni, a dechreuodd y fenter ar ôl iddi gael budd mawr o hynny ei hun.

Cafodd ei mab, Tomos, ei eni ar ôl 30 wythnos yn 2020, a chafodd brofiad geni gwael.

Yn sgil ei phrofiad, fe wnaeth Leri, sy’n byw ym Mhenygroes yng Ngwynedd ond sy’n dod o Fodorgan ar Ynys Môn, ddioddef o orbryder a chafodd ddiagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Yn aml, mae symptomau PTSD ôl-enedigaeth yn cynnwys cael ôl-fflachiadau, hunllefau, iselder a gorbryder.

Mae un ym mhob tri pherson sy’n rhoi genedigaeth yn disgrifio’r enedigaeth fel “trawmatig”, ac yn ôl yr amcangyfrifon mae 4% i 6% o famau’n datblygu PTSD ar ôl rhoi genedigaeth.

‘Diffyg siarad’

Cafodd yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamol, sy’n cael ei chynnal rhwng Ebrill 29 a Mai 5 eleni, ei lansio yn 2017, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd ac arbenigwyr, newid agweddau, helpu pobol i ddod o hyd i wybodaeth a gofal, a rhoi llais i fenywod a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.

“Mae rhoi genedigaeth i fabi’n rhywbeth mor naturiol, rhywbeth mae merched wedi bod yn ei wneud ers canrifoedd, ond eto mae yna gymaint o famau’n dioddef o ganlyniad,” meddai Leri Foxhall wrth golwg360.

“Dw i’n gweithio efo lot o famau, a dw i’n trio creu gofod saff iddyn nhw allu rhannu profiadau os ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus.

“Pan wnes i gael y profiad yma efo’r bychan, doeddwn i byth yn meddwl fysa hyn yn gallu digwydd.

“Dydy pobol ddim yn siarad amdano fo, oherwydd bod ganddyn nhw gywilydd efallai. A hefyd y stigma yma: ‘Ti newydd gael babi, ti fod yn hapus’.

“Does yna ddim llawer o le i famau deimlo’r pethau normal yma sy’n dod efo cael babi.”

Leri a Tomos

Fe wnaeth ei phrofiad ei “newid fel person”, meddai.

Cyn hynny, roedd hi’n gweithio fel athrawes gynradd, ond mae hi wedi’r rhoi gorau i ddysgu llawn amser er mwyn gallu rhedeg Iogis Bach.

Gan ei bod hi wedi dioddef gyda’i hiechyd meddwl yn y gorffennol, roedd hi dan ofal y tîm iechyd meddwl pan oedd hi’n feichiog.

“Roedd y fydwraig wedi sylwi fy mod i’n teimlo mor isel, yn cael yr ôl-fflachiadau a’r hunllefau, a fy mod i ar binnau ac yn bryderus efo Tomos, yn meddwl bod yna rywbeth yn mynd i ddigwydd iddo fo,” meddai.

Cafodd gymorth y tîm iechyd meddwl amenedigol, ac er ei bod hi wedi bod ar restr aros am fisoedd, cafodd weld seicolegydd yn y diwedd.

“Mae hynna wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fi,” meddai.

“Bron i bedair blynedd yn ddiweddarach, fyswn i ddim yn dweud fy mod i’n llawn dros be’ wnaeth ddigwydd i fi ond dw i’n gallu’n sicr delio efo fo yn y well oherwydd y gwaith dw i wedi’i wneud.”

‘Ymgolli yn y foment’

Ond yn y cyfamser, dilynodd Leri Foxhall gwrs tylino babi gyda bydwraig arbenigol.

Eglura fod tylino yn rhyddhau oxytocin, yr hormon sy’n gwneud i rywun deimlo’n hapusach, a bod hynny’n arafu’r system nerfol ac yn helpu’r rhiant i greu cysylltiad efo’r babi.

“Mae o’n gallu helpu pethau fel iselder a gorbryder. Mae o’n llesol i’r babi ac i’r fam, ac mae hynna’n rhywbeth dw i’n ei weld yn aml yn y sesiynau,” meddai.

“Mae lot o famau sy’n teimlo ychydig yn bryderus yn dod ata i’n teimlo’n well ar ôl sesiwn achos maen nhw’n cael cyfathrebu efo rhieni eraill ac maen nhw’n cael gwneud rhywbeth iddyn nhw eu hunain – rydyn ni’n gwneud ychydig o ymestyn, meddylgarwch, technegau anadlu.

“Pan oeddwn i’n tylino’r bychan, doeddwn i ddim yn cofio am y ffordd oeddwn i’n teimlo – roeddwn i’n ymgolli yn y foment ac roedd o’n gwneud i fi deimlo lot gwell ynof fi’n hun a rhoi’r hyder i fi feddwl bod beth dw i’n wneud yn iawn efo fi mabi a rhoi’r hyder i fi gael technegau i helpu i setlo fo.

“Dyna un o’r pethau wnes i stryglo efo fwyaf, pan oedd Tomos yn crio roeddwn i’n mynd reit overwhelmed yn reit sydyn.

“Doeddwn i ddim yn gwybod sut i’w gysuro fo, a phan oeddwn i’n gwneud y technegau tylino roedd o’n helpu i’w dawelu fo ac roedd o’n helpu fi wedyn i deimlo’n well.”

Un o sesiynau Iogis Bach

Mae Iogis Bach yn cynnig cyrsiau ioga i fabis, tylino babis, ioga i blant, ioga cyn-genedigaeth a ioga ôl-enedigaeth yn Ninas Dinlle ac yn Llanfairpwll.

Ddydd Mercher (Mai 1), bydd hi’n cynnig sesiwn galw heibio i unrhyw famau sydd eisiau paned a bwrw eu bol yn Braf yn Ninas Dinlle am 12:30, a bydd lluniaeth am ddim yn Neuadd Goffa Llanfairpwll, Ynys Môn ddydd Gwener (Mai 3) am 12 o’r gloch i unrhyw un fam sydd eisiau sgwrs.

“Yn amlwg, dw i ddim wedi cael fy hyfforddi i fod yn weithiwr iechyd meddwl ond dw i’n rhywun sy’n gallu gwrando a chyfeirio at y bobol gywir,” meddai.

“Be’ dw i’n weld ar y cyfryngau ydy bod yna lwyth o stwff yn Saesneg,” ychwanega am bwysigrwydd yr wythnos codi ymwybyddiaeth.

“Ond does yna ddim llawer o ddim byd yn Gymraeg.”