Mae achosion o Covid-19 yn parhau i gynyddu’n sylweddol yng Ngheredigion.

Yn ardal Aberteifi ac Aberporth, mae’r gyfradd heintio wedi codi i dros 1,000 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, sef y lefel uchaf sydd wedi ei gofnodi yn y sir ers dechrau’r pandemig.

Fe gafodd cyfraddau uchel eu cofnodi yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad (582.3), yn ogystal â Cheinewydd a Phenbryn (578.1) hefyd.

Mae nifer yr achosion ymhlith pobol o dan 25 oed yn cynyddu’n sylweddol hefyd, gyda 898.6 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth yn yr wythnos diwethaf.

Ymateb y Cyngor

Dydy’r Cyngor Sir ddim yn crybwyll unrhyw fesurau newydd wrth ystyried y ffigyrau uchel, ond maen nhw’n parhau i “annog pawb i gymryd gofal wrth fynd i’r gwaith a chymdeithasu.”

Maen nhw hefyd yn ychwanegu nad yw’r feirws wedi diflannu, a bod “angen i bob un ohonom barhau i wneud ein rhan i gadw ein gilydd yn ddiogel”.

Fel sawl rhan o’r wlad, mae nifer o wasanaethau Ceredigion yn wynebu pwysau sylweddol oherwydd prinder staff, felly mae’r Cyngor yn galw am unigolion i ymgeisio am rai o’r swyddi sydd dan straen, ac maen nhw hefyd yn annog pawb i drefnu apwyntiad am frechlyn Covid-19.