Ers dechrau’r pandemig, mae cynnydd brawychus wedi bod mewn stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, yn ôl arolwg newydd.

Dangosa ganfyddiadau arolwg Agweddau’r Cyhoedd at Salwch Meddwl, Amser i Newid Cymru, mai dim ond hanner pobol Cymru sy’n dweud y bydden nhw’n teimlo’n gyfforddus yn siarad am eu teimladau neu broblemau iechyd meddwl â ffrindiau a theulu.

Yn ôl yr arolwg, dim ond un ymhob pedwar fyddai’n siarad â chyflogwr neu ddarpar gyflogwr am eu hiechyd meddwl.

Er hynny, mae gwelliant cyffredinol yn agwedd y cyhoedd tuag at salwch meddwl, gyda 5% o oedolion (tua 129,000 o bobol) yn dangos mwy o ddealltwriaeth a goddefiant.

Canlyniadau

Ers 2019, mae’r rhai sy’n teimlo’n anghyfforddus yn siarad â ffrindiau a theulu am iechyd meddwl wedi dyblu o 20% i 43%.

Mae’r sefyllfa yn y gweithle’n waeth, gyda 69% yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n anghyfforddus yn siarad gyda chyflogwr am iechyd meddwl, o gymharu â 37% yn 2019.

Datgela’r arolwg bod gan fwy o bobol broblemau iechyd meddwl hefyd, am fod un ymhob pedwar yn dweud fod ganddyn nhw aelodau uniongyrchol o’r teulu sydd wedi cael problemau yn y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd hynny’n cymharu ag un ymhob pump yn 2019.

Canlyniad arall yw’r gostyngiad yn nifer y bobol fyddai’n debygol o gysylltu â’u meddyg teulu pe bai ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl.

Yn 2019, dywedodd wyth ymhob deg person y bydden nhw’n gofyn i’r meddyg teulu am help pe bai ganddyn nhw broblem iechyd meddwl.

Erbyn hyn, mae hynny wedi gostwng yn sylweddol i lai na saith ymhob deg person (66%).

“Rhyddhad gallu siarad”

Roedd Mark, sy’n 32 oed o Ferthyr Tudful, yn teimlo na allai siarad yn agored â’i ffrindiau a’i deulu am ei iselder a’i orbryder oherwydd roedd yn ofni y byddai’n cael ei alw’n wan ac yn ansefydlog yn emosiynol.

“Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi gyflwyno fy hun yn y fath fodd fel na fyddai pobl yn amau bod rhywbeth wir yn fy mhoeni,” meddai Mark.

“Roedd fy mhryder mwyaf yn deillio o ganfyddiad, ac roeddwn yn ofni y gallai pobl fy nhrin i mewn ffordd negyddol petaen nhw’n clywed am fy mhroblemau iechyd meddwl.

“Er fy mod yn brwydro yn erbyn fy nemoniaid fy hun, roeddwn i’n barod i gadw’n dawel a chanolbwyntio ar fod yno i fy ffrindiau a fy nheulu.

“Allwn i ddim mentro dweud wrth unrhyw un am fy nhrafferthion fy hun oherwydd roeddwn i’n ofni y byddai’n gwneud iddyn nhw deimlo hyd yn oed yn waeth.

“Roeddwn i’n teimlo bod digon ganddyn nhw i feddwl amdano heb fy mhroblemau i, felly dechreuais i ddirywio yn feddyliol ar ôl i mi ei chael hi’n anodd delio â’r hyn roeddwn i’n mynd drwyddo.

Roedd pethau ar eu gwaethaf i Mark ym mis Rhagfyr llynedd, pan gyhoeddodd Mark Drakeford ail gyfnod clo.

“Roeddwn i wir yn edrych ymlaen at ein holl gynlluniau fel teulu ac yna, yn sydyn, diflannodd y cyffro hwnnw. Un diwrnod, gwnes i ffrwydro o flaen fy nyweddi, a siaradais i am lawer o’r pethau roeddwn i wedi’u cadw i mi fy hun.

“Roedd yn rhyddhad gallu siarad amdano a chael cysur gan rywun. Rwy’n ei gweld hi’n haws gwisgo’r arfwisg, ond efallai y bydd angen ychydig o help arna i i’w thynnu i ffwrdd. Gwnaeth y gydnabyddiaeth a’r sicrwydd roi hwb i mi barhau i frwydro yn erbyn fy nemoniaid a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofalu am ein hiechyd meddwl a siarad amdano.”

“Cyfnod erchyll”

Mae gan Lisa, sy’n 48 oed o’r canolbarth, gyflyrau iechyd meddwl cymhleth, megis anhwylder deubegynol, anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) ac anhwylder bwyta.

Mae’n ofni nodi ei chyflyrau iechyd meddwl ar geisiadau am swyddi rhag ofn y bydd yn destun stigma a gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl; rhywbeth y mae eisoes wedi’i brofi mewn swyddi blaenorol.

“Yn fy swydd ddiwethaf, roedd y gwahaniaethu mor wael bu’n rhaid i mi fynd â fy nghyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth. Roedd y stigma a’r gwahaniaethu a ddioddefais gan fy nghydweithwyr mor wael gwnes i ystyried lladd fy hun,” meddai Lisa.

“Roeddwn i’n teimlo na allwn i fod yn agored na bod yn fi fy hun. Roedd yn gyfnod erchyll, ac ers hynny mae ofn wedi bod arna i i ddatgelu fy nghyflyrau iechyd meddwl ar geisiadau am swyddi rhag ofn y byddwn i’n cael fy nhrin yn annheg neu’n dioddef yr un stigma a gwahaniaethu.”

“Gwaethygu’r profiadau”

“Mae’n glir o ganfyddiadau’r arolwg bod y pandemig wedi gwaethygu’r profiadau o stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yng Nghymru ymhellach, ac mae’n bryderus clywed bod hyn wedi atal pobl rhag ceisio’r cymorth cywir,” meddai Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru.

“Mae gan Amser i Newid Cymru rôl allweddol yn y gwaith o gefnogi sgyrsiau agored am iechyd meddwl mewn lleoliadau gwahanol fel mannau cymdeithasol ac yn y gweithle.

“Mae bellach yn bwysicach nag erioed i Amser i Newid Cymru barhau i gefnogi unigolion, cymunedau a chyflogwyr i herio stigma a chreu diwylliant o newid, a sicrhau nad yw neb yn dioddef problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun.”