Bydd prif swyddogion meddygol pedair gwlad y DU yn ystyried cyngor arbenigol i beidio brechu plant iach rhwng 12 a 15 oed.

Yn ôl y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), ni ddylai y plant yma dderbyn brechlyn yn erbyn Covid-19.

Dywedodd yr arbenigwyr fod diffyg tystiolaeth i gefnogi rhaglen frechu i blant iach yn y grŵp oedran yma, gan ddweud mai ychydig iawn o fudd fyddai rhaglen o’r fath yn ei gael.

Ond yn ôl y JCVI, dydyn nhw ddim yn gyfrifol am ystyried y buddion i weddill cymdeithas – fel yr effaith ar ysgolion a lleihau’r lledaeniad i oedolion.

Maen nhw’n annog llywodraethau i ystyried y dadleuon hynny, ac mae gweinidogion y DU wedi gofyn i swyddogion meddygol asesu a fyddai gwerth yn eu brechu oherwydd y rhesymau hynny.

Terfynol

Bydd prif swyddogion meddygol pedair gwlad y DU nawr yn ystyried cyngor y JCVI cyn dod i benderfyniad terfynol dros y dyddiau nesaf.

Mae plant dros 12 oed sydd â chyflwr meddygol sy’n eu gwneud yn agored i niwed gan coronafeirws eisoes yn gymwys ar gyfer cael brechiad Pfizer/BioNTech.

Ddydd Gwener fe wnaeth y JCVI gynghori y dylid cynnig y brechlyn i blant sydd ag ystod ehangach o gyflyrau hefyd, megis rheiny sydd â diabetes math 1.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, rwyf wedi gofyn i fy Mhrif Swyddog Meddygol ddarparu canllawiau cyn gynted â phosibl ar y manteision clinigol a’r manteision iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â brechu’r grŵp oedran hwn.

Tystiolaeth

“Ein bwriad, fel ein bwriad ers dechrau’r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a’r dystiolaeth wyddonol.

“Bydd penderfyniadau ar frechu pob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed yn cael eu gwneud ar sail cyngor y Prif Swyddog Meddygol, ynghyd â chyngor a ddarperir gan y cyd-bwyllgor.

“Yn y cyfamser, mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cynllunio ar gyfer unrhyw benderfyniadau pellach a wneir ac yn barod i weithredu arnynt.”