Yn unol â chyngor y Cydbwyllgor Imiwneiddio a Brechu, mae Llywodraeth Cymru am weithio gyda’r byrddau iechyd er mwyn dechrau darparu’r rhaglen atgyfnerthu brechlynnau Covid-19 ym mis Medi.
Mae’r Cydbwyllgor wedi cyhoeddi cyngor dros dro heddiw (30 Mehefin) wrth symud tuag at Gam 3 y rhaglen frechu, sef darparu trydydd dosys.
Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor, sy’n gweithredu dros y Deyrnas Unedig gyfan, a ddylid lansio ymgyrch i roi trydydd dos o frechlyn Covid i bobol gan fod perygl fod imiwnedd yn lleihau dros amser.
Mae’r cyngor cychwynnol yn argymell y dylai’r ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu ddechrau ym mis Medi eleni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cyngor, ac mae’n cyd-fynd “yn llwyr” â’u meddylfryd a’u rhagdybiaethau wrth gynllunio, meddai’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AoS.
“Ffordd orau o atal salwch difrifol”
“Mae GIG Cymru wedi bod yn cynllunio ar y rhagdybiaeth o roi brechlynnau atgyfnerthu ym mis Medi/Hydref i grwpiau â blaenoriaeth 1-9, gyda bwlch o tua 6 mis yn dilyn ail ddos ac mae’r byrddau iechyd wedi cyflwyno eu cynlluniau cychwynnol ar y sail hon,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.
“Byddwn yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn barod i ddarparu rhaglen atgyfnerthu o ddechrau mis Medi ymlaen, yn unol â’r cyngor hwn.
“Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 o hyd, ac anogir pob oedolyn cymwys i gael y ddau ddos pan ofynnir iddynt.
‘Nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad ac os nad ydych wedi derbyn eich cynnig i gael y brechiad eto, gallwch weld â phwy y dylech gysylltu yma.”
Blaenoriaethu
Lleihau unrhyw achosion pellach o Covid-19 yw nod yr ymgyrch, a sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu hamddiffyn cymaint â phosib cyn y gaeaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae tystiolaeth gynnar ar ddarparu brechlynnau Covid-19 a brechlynnau ffliw yr un pryd yn cefnogi gwneud hynny.
Fodd bynnag, maen nhw’n nodi nad yw hynny’n gyngor pendant gan y Cydbwyllgor ar hyn o bryd.
Mae’r categorïau o bobol fydd yn cael blaenoriaeth i dderbyn trydydd dos o’r brechlyn wedi’i dosbarthu i Gyfnodau 1 a 2, gan adlewyrchu, fwy neu lai, y grwpiau blaenoriaeth 1-9 yng Ngham 1 y rhaglen.
Cyfnod 1: Dylid cynnig trydydd dos a’r brechlyn ffliw i’r grwpiau canlynol cyn gynted â phosibl o fis Medi 2021.
- oedolion imiwnoataliedig 16 oed a throsodd
- y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion hŷn
- pob oedolyn sy’n 70 oed neu’n hŷn
- oedolion 16 oed a throsodd sy’n cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol
- gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
Cyfnod 2: Dylid cynnig trydydd dos cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosib, gyda phwyslais ar roi brechlyn ffliw i’r rhai sy’n gymwys.
- pob oedolyn 50 oed a throsodd
- oedolion rhwng 16 – 49 oed sydd mewn grŵp risg ffliw neu grŵp risg COVID-19.
- oedolion sy’n dod i gysylltiad ag aelwydydd unigolion imiwnoataliedig
Bydd manteision brechlynnau atgyfnerthu i oedolion iau eraill yn cael ei ystyried yn nes at yr amser, gan mai tua diwedd yr haf fydd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael eu hail ddos.