Mae arweinwyr iechyd y byd wedi cyhoeddi enwau newydd ar gyfer amrywiolion Covid-19, gan ddefnyddio’r wyddor Roegaidd.

Cafodd yr enwau newydd eu datblygu gan arbenigwyr Sefydliad Iechyd y Byd.

Gan amlaf, mae’r amrywiolion wedi cael eu hadnabod ar lafar drwy gyfeirio at le bynnag y cawson nhw eu darganfod gyntaf.

Ond y nod wrth gyflwyno’r newid yw dileu’r stigma sydd ynghlwm wrth wahanol amrywiolion.

Ymysg yr amrywiolion o Sars-CoV-2 – y feirws sy’n achosi Covid-19 – mae’r B.1.1.7, sy’n cael ei adnabod o fewn y Deyrnas Unedig fel amrywiolyn Caint, ac fel amrywiolyn y Deyrnas Unedig yng ngweddill y byd.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi’i labelu fel Alffa, tra bod y B.1.617.2 – sy’n cael ei adnabod fel amrywiolyn India – wedi cael ei labelu fel Delta.

Bydd amrywiolyn B.1.351, y cyfeirir ato’n aml fel amrywiolyn De Affrica, yn cael yr enw Beta, ac amrywiolyn Brasil yn cael y label Gama.

Dywed Sefydliad Iechyd y Byd fod y labeli wedi cael eu dewis ar ôl ymgynghoriad eang, ac adolygiad o’r system enwi.

Dydy’r labeli ddim yn disodli enwau gwyddonol yr amrywiolion, sy’n cyfleu gwybodaeth wyddonol bwysig, a byddan nhw’n parhau i gael eu defnyddio mewn ymchwil.

“Er bod ganddyn nhw fanteision, gall yr enwau gwyddonol hyn fod yn anodd i’w dweud a’u cofio, ac maen nhw’n aml yn cael eu camadrodd,” meddai Sefydliad Iechyd y Byd.

“O ganlyniad, mae pobol yn aml yn cyfeirio at amrywiolion yn ôl y llefydd maen nhw’n cael eu cysylltu â nhw, sy’n stigmateiddio ac yn gwahaniaethu.

“Er mwyn osgoi hyn a symleiddio cyfathrebu cyhoeddus, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn annog awdurdodau cenedlaethol, y wasg ac eraill i fabwysiadu’r labeli newydd.”