Mae myfyrwraig 26 oed wedi rhoi aren i’w ffrind gorau er mwyn ceisio achub ei bywyd.

Roedd Rosie Morgan, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi gweld ei ffrind, Zoe Richards, yn dioddef o glefyd yr arennau am dair blynedd, doedd dim aren addas ar gael iddi.

Gyda bywyd Zoe mewn perygl, penderfynodd Rosie roi ei aren iddi.

Mae Zoe, sy’n fam 40 oed, ymhlith 20,000 o bobl yng Nghymru sy’n dioddef o glefyd yr arennau.

“Fe gwrddais i â Zoe yn 2018, ac ry’n ni’n ffrindiau mynwesol byth ers hynny,” meddai Rosie.

“Dros y blynyddoedd, rydym wedi mwynhau nosweithiau mas, teithiau cerdded hir a gwyliau tramor gyda’n gilydd,” meddai Rosie.

“Rydyn ni wedi helpu ein gilydd drwy gyfnodau heriol iawn dros y blynyddoedd, felly pan ddywedodd Zoe ei bod yn dioddef o fethiant yr arennau, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud popeth posibl i’w helpu.”

Erbyn mis Mawrth 2020, roedd arennau Zoe wedi creithio’n llwyr, a chlywodd fod angen trawsblaniad ar unwaith.

Dechreuodd Rosie ymchwilio i’r posibilrwydd o fod yn rhoddwr byw, a chafodd brofion wnaeth ddatgelu bod ganddi organ gyfatebol.

Ychwanegodd: “Roedd yn wyrth. Mae popeth yn digwydd am reswm, ac mae’n amlwg bod hyn i fod. O’r pwynt hwnnw, roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir.

“Fe wnes i ffonio Zoe, a dyna’r alwad fwyaf emosiynol rydyn ni wedi’i chael erioed. Mae hi’n berson caredig iawn, ac ar y dechrau, doedd hi ddim am i mi fentro fy iechyd a bwrw ymlaen â’r driniaeth.

“Ond nid dim ond er ei mwyn hi roeddwn i’n gwneud hyn, ond i’r ddwy ohonom.

“Rydyn ni wedi bod drwy bopeth gyda’n gilydd; doeddwn i ddim am adael iddi fynd drwyddi ar ei phen ei hun.”

Aeth y trawsblaniad byw rhagddo’n llwyddiannus ar 17 Mawrth 2021.

“Anhygoel sut mae fy iechyd wedi newid”

Dywedodd Zoe: “Ers y trawsblaniad, mae’n anhygoel sut mae fy iechyd wedi newid ar unwaith.

“Dydw i ddim wedi blino mwyach, does gen i ddim pen tost, ac mae gen i egni o’r diwedd. Mae fy aren yn gwneud yn dda ac yn gweithredu tua 80%.

“Alla i ddim diolch digon i Rosie. Heb ei rhodd, gallwn fod wedi wynebu dialysis a dyfodol cyfyngedig. Rwy’n wirioneddol ddyledus iddi am roi’r rhodd o fywyd i mi.

“Mae cael trawsblaniad sy’n newid bywyd mewn cyfnod o anobaith yn arbennig iawn. Nawr, gallaf edrych ymlaen at fwynhau’r pethau bach eto, gwylio fy mab yn tyfu, mynd i ffwrdd gyda Rosie a byw bywyd i’r eithaf.

“Efallai bod pobl yn fwy petrusgar nag erioed i fod yn rhoddwr byw ar hyn o bryd, ond rwy’n gobeithio y bydd ein profiad yn annog mwy o bobl i ystyried hynny, ac i siarad am roi organau er mwyn achub mwy o fywydau.”

Yn ddiweddarach eleni, mae Rosie yn gobeithio rhedeg uwch farathon ‘Race to the Stones’ a Marathon Llundain er budd Aren Cymru.