Gall pobl yng Nghymru ddisgwyl cyfyngiadau teithio amrywiol yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw os yw’r wlad yn symud i reolau ‘aros yn lleol’ yr wythnos nesaf, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Dywedodd Mr Gething y byddai’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig yn cael teithio mwy o bellter na phobl mewn trefi a dinasoedd.

Mae disgwyl i’r gofyniad “aros gartref” presennol gael ei godi yng Nghymru erbyn dydd Llun, gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, i gyhoeddi newidiadau mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Gwener.

Dywedodd Mr Gething wrth y gynhadledd ddydd Mercher (10 Mawrth) y byddai’r rheolau’n ystyried daearyddiaeth ardaloedd – yn wahanol i’r cyfnod ‘aros yn lleol’ y llynedd, a oedd yn cyfyngu teithio i bum milltir o gartref ym mhobman yng Nghymru.

“Ychydig wythnosau”

Dywedodd Mr Gething: “Os ydych chi, fel fi, yn ddigon ffodus i fyw ym Mhenarth, yna ychydig filltiroedd o Benarth gallwch chi wneud llawer o bethau.

“Pe bawn i’n byw yng nghanol Powys neu Ynys Môn, o fewn ychydig filltiroedd efallai na fyddaf yn gallu gwneud [pethau], felly rydym yn cydnabod, os byddwn yn symud i [reol] aros yn lleol, y bydd [y rheol honno] ychydig yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw.”

Dywedodd y byddai unrhyw reolau newydd yn debygol o bara “ychydig wythnosau”, gan ychwanegu: “Yna rydyn ni’n meddwl y gallen ni fod mewn sefyllfa i fynd y tu hwnt i hynny.”

Dywedodd Mr Gething ei fod yn cydnabod y byddai angen llacio’r rheolau ar deithio mwy fyth er mwyn caniatáu i lety gwyliau hunangynhwysol ailagor mewn pryd ar gyfer y Pasg.

“Rydyn ni’n gwybod, os ydyn ni’n mynd i ailgychwyn rhannau o’r sector twristiaeth yn effeithiol… yna mae’n debyg nad yw cyfnod ‘aros yn lleol’ yn golygu y gall y busnesau hynny agor,” meddai.

“Rydyn ni’n gofyn i bobl gadw at [y rheol] am gyfnod o wythnosau, ac i fod yn synhwyrol yn ei gylch.”