Mae angen sefydlu menter iaith i Sir Fynwy yn ôl Ysgrifennydd Cymdeithas Gymraeg y sir, er mwyn delio â’r galw uchel am wersi a gwasanaethau.

Mae Robin Davies yn dweud wrth golwg360 bod gormod o waith i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy (BGTM) bellach, a bod angen naill ai cynyddu nifer staff y ganolfan bresennol, neu sefydlu menter iaith newydd sbon.

Mae’n dweud hefyd bod lleoliad Menter BGTM ym Mhont-y-pŵl yn “anghyfleus” i Gymry Cymraeg Sir Fynwy.

“Dw i’n meddwl bod Menter Iaith BGTM wedi bod yn llwyddiannus iawn,” meddai Robin Davies, “ond mae’n amlwg bod yr ardal yn eang a dw i’n teimlo bydd rhaid i ni ystyried naill ai cael mwy o staff ar gyfer Menter BGTM neu gael menter newydd, efallai Menter Mynwy.

“Dw i ddim yn hollol siŵr eto pryd, ond dyna’r cyfeiriad dw i’n meddwl y dylem anelu ato.

“Mae Siân Griffiths y Prif Swyddog a Hannah Roberts [Swyddog Datblygu Cymunedol] – dim ond dwy ohonyn nhw – yn wych ac yn gweithio’n galed iawn. Ond y gwir ydy mai’r ‘centre of gravity’ mewn ffordd ydy Pont-y-pŵl ac ardal Cwmbrân, ac mae’n dipyn o daith o fanna i Drefynwy.”

Pwyllgor yr Ardal

Yn dilyn penderfyniad neithiwr yn ystod cyfarfod rhwng Menter Iaith BGTM a chymdeithas Gymraeg Sir Fynwy, mae Pwyllgor yr Ardal wedi ei sefydlu, a fydd yn cyfarfod am y tro cynta’ yn ystod mis Chwefror i drafod y posibiliad o sefydlu menter iaith newydd.