Byddai’n rhaid mynd yn ôl tua phedair cenhedlaeth er mwyn dod o hyd i’r siaradwyr Cymraeg diwethaf yn nheulu Roland Davies, un o’r pedwar sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Ac yntau’n byw ar y fferm deuluol yn Llidiart-y-waun ger Llanidloes, aeth y ffermwr ati i ddysgu’r iaith er mwyn gallu magu teulu yn Gymraeg.

Ar ôl dechrau dysgu o ddifrif tua chwe blynedd yn ôl, Cymraeg yw iaith yr aelwyd a’r iaith mae’n ei siarad â’i wraig Fflur a’u tri phlentyn bellach.

Mynychodd wersi Cymraeg, a threuliodd wythnos yn Nant Gwrtheyrn, ac roedd yn astudio Duolingo a Say Something in Welsh yn gynnar bob bore cyn mynd i’r gwaith.

Mae’n perfformio gyda Chwmni Theatr Maldwyn, a newydd orffen teithio Cymru yn chwarae un o’r prif rannau yn y sioe Y Mab Darogan.

“Ar ôl priodi Fflur roedden ni’n sgwrsio a meddwl y bydd o’n dda i gael teulu Cymraeg, siarad Cymraeg efo plant, a Cymraeg fod yn iaith gyntaf nhw,” meddai Roland Davies, sy’n 41 oed, wrth golwg360.

“I wneud hynna, roeddwn i’n meddwl mai rŵan ydy’r cyfle i fi ddysgu Cymraeg go iawn felly dyna pam dw i wedi’i wneud o – i newid iaith y teulu. Roedd o’r cyfle gorau i fi ddysgu hefyd.

“Roedd yna reswm i ddysgu i fod yn siaradwr Cymraeg, ond ar ôl i Mabon gael ei eni roedd y rheswm yn llawer mwy pwysicaf ac roeddwn i’n meddwl os dw i ddim yn dysgu fo rŵan dw i ddim yn mynd i fod yn siaradwr Cymraeg o gwbl.

“Os dw i’n cychwyn siarad Saesneg efo Mabon, dyna’r cyfle wedi mynd.

“Mae hwnna’n helpu i fi achos mae eu hiaith nhw’n llawer haws i’w siarad, ond mae’n helpu i gael ymarfer siarad bob dydd.

“Rŵan dw i’n gallu dweud na Cymraeg ydy iaith ein teulu ni. Dydy pobol ddim yn credu pa mor hawdd mae plant yn dysgu iaith newydd.

“Ar y pryd, roeddwn i wedi dweud ein bod ni’n mynd i siarad jyst Cymraeg efo Mabon ac roedd rhai pobol yn teulu fi’n meddwl: ‘Really? He won’t be able to speak English’. Ond mae’n chwech oed rŵan, neb wedi dysgu fe Saesneg o gwbl ond mae’n gallu siarad y ddwy iaith dim problem o gwbl achos mae Saesneg yn bob man.

“Mae’n bwysig i’r teulu weld pa mor hawdd mae plant yn gallu dysgu, a ti ddim rili angen siarad Cymraeg dy hun chwaith.

“Mae pobol yn poeni fyddan nhw ddim yn gallu’u helpu nhw yn yr ysgol a phethau fel yna, ond be dw i’n dweud wrth bobol ydy mae Mabon yn gallu darllen yn Gymraeg ac wedyn dweud o’n Saesneg.

“I nhw dydy o ddim yn beth mawr, ond mae oedolion weithiau’n meddwl gormod am y peth.”

‘Eisiau newid pethau’

Wedi’i fagu ar y fferm lle mae’r teulu’n byw nawr, rhwng Llanidloes a Rhaeadr, cafodd ambell ddosbarth Cymraeg yn yr ysgol “ond dim digon i ddysgu neb i siarad Cymraeg go iawn”.

“Mae’n rhyfedd, dw i wedi cael dosbarthiadau Cymraeg yn yr ysgol ond does dim ffrwd Cymraeg yn Ysgol Gynradd Llanidloes. Unwaith neu ddwywaith yr wythnos roedd dosbarth Cymraeg.

“Mae Afon Hafren yn rhedeg drwy ganol Llanidloes ac mae rhai pobol i’r gogledd o’r afon yn siarad Cymraeg ond os ydych chi’n dod i’r de o’r afon, lle dw i’n byw yn Llidiart-y-waun, hanner ffordd rhwng Llanidloes a Rhaeadr, does dim lot o Gymraeg o gwbl.

“Ti angen mynd yn ôl i hen daid a nain fi tan ti’n ffeindio rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg.

“Mae’n siom, maen nhw o Gymru ond dydyn nhw ddim yn Gymry Cymraeg.

“Dyna pam dw i eisiau newid pethau.”

Mae’n credu bod yr iaith ar gynnydd yn yr ardal erbyn hyn, ac yn gweld newidiadau.

“Os ti’n cael rhai o bobol yn yr ardal sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn rhoi pethau ymlaen ac yn cefnogi pethau Cymraeg, mae Cymraeg yn tyfu.

“Mae yna gylch newydd wedi cychwyn yn Ysgol Dyffryn Trannon [mae’n un o lywodraethwyr yr ysgol] ac mae’n wych gweld y plant yn dod mewn i fan yna – plant o deuluoedd di-Gymraeg – ac maen nhw jyst fel duck to water [yn cymryd at Gymraeg].”

‘Agor drws enfawr’

Ers dechrau dysgu’r iaith, mae bywyd wedi newid lot, ac mae wedi cael cyfle i weld diwylliant cwbl wahanol.

“Amser maith yn ôl, er fy mod i’n tyfu fyny yn Llanidloes wir rŵan doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod neb yng Nghymru actually yn byw yn Gymraeg. Mae o fel bubble Saesneg,” meddai.

“Ers cwrdd â Fflur dw i wedi agor drws enfawr dim jyst i weld pobol newydd ond diwylliant hollol wahanol.

“Dw i wedi ymuno efo côr, Aelwyd Bro Ddyfi ar y pryd rŵan Côr Dyffryn Dyfi. Dw i wedi bod efo nhw ers blynyddoedd. Fan yna dw i wedi cymdeithasu efo pobol.

“Dw i’n ffermwr, dw i’n gweld yn glir bod gan bobol ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg llawer mwy o barch i’r byd amaeth na phobol ifanc sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg.”

Teulu ei wraig wnaeth ei berswadio i gystadlu yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, ac mae’n “deimlad da iawn”, cyrraedd y rhestr fer, meddai.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ar Awst 9.