Emyr Gruffydd, sy’n byw yn Barcelona, sy’n trafod yr ymdrechion i ddiogelu addysg Gatalaneg….

Cynhaliwyd gorymdaith gan blatfform “Som Escola” (Ni yw’r Ysgol) i gefnogi parhad a datblygiad addysg trwy gyfrwng y Gatalaneg ddydd Sadwrn diwethaf.

Yn  ôl  yr heddlu roedd tua 25,000 o bobl yno, gyda’r trefnwyr yn honni bod dros 100,000 yn bresennol. Cynhelir y brotest ar adeg ddifrifol yn hanes addysg trwy gyfrwng y Gatalaneg, gan fod llywodraeth Sbaen wedi pasio cyfraith newydd  i ddiwygio’r system addysg drwy rwystro dysgu rhai pynciau trwy gyfrwng ieithoedd fel Catalaneg, Basgeg a Galisieg.

Gan fod addysg wedi’i ddatganoli i lywodraethau’r ‘Comunitats Autònomes’, neu ranbarthau a chenhedloedd gwahanol y wladwriaeth, mae llywodraeth Sbaen yn ymyrryd yn anghyfreithlon er mwyn gwthio eu hagenda gwleidyddol ar ddisgyblion ysgol.

Defnyddir y Gatalaneg mewn 3 tiriogaeth yn y Wladwriaeth Sbaenaidd (Catalunya, Gwlad Falensia ac Ynysoedd y Balearig) ac mewn rhan o un arall (La Franja d’Aragó). Mae polisïau iaith y tair tiriogaeth yn dra gwahanol. Darperir addysg gynradd ac uwchradd yng Nghatalwnia yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gatalaneg, gyda thua 60% o ddarlithoedd mewn prifysgolion  hefyd trwy gyfrwng y Gatalaneg.

Er hynny, yn ddiweddar fe orchmynnodd uwch-lys Catalwnia bod rhaid i bob ysgol lle mae teulu un plentyn yn unig yn gofyn am addysg trwy gyfrwng y Sbaeneg ddysgu o leiaf 25% o’r dosbarthiadau drwy gyfrwng yr iaith honno. Dim ond 5 teulu sydd wedi gofyn am hyn trwy’r wlad gyfan, ond golyga hyn bod y dosbarth cyfan wedyn yn gorfod astudio trwy gyfrwng y Sbaeneg er mwyn yr un teulu hwnnw. Amser a ddengys os bydd yr ysgolion yn cymryd sylw o’r gorchymyn, ond hyd yn hyn, gwrthod dysgu trwy’r Sbaeneg y mae nifer o’r athrawon a effeithiwyd.

‘Polisïau andwyol’

Yng Ngwlad Falensia (El País Valencià) system digon tebyg i Gymru sydd mewn grym. Y PP, sef y blaid geidwadol, sydd wedi bod mewn grym yma ers cryn amser, ac mae eu polisïau wedi cael effaith andwyol ar y Gatalaneg yn y diriogaeth. System ddwy ffrwd yw system addysg Falensia, gyda phlant y ffrwd Sbaeneg yn derbyn ychydig oriau’r wythnos yn unig o Gatalaneg (neu Falensianeg fel y’i gelwir yn lleol). Prin y gellir dweud eu bod yn rhugl eu Catalaneg wedi gadel ysgol.

Gwrthodwyd dros 30,000 o blant y flwyddyn hon mewn i’r ffrwd Gatalaneg oherwydd diffyg lle, a dydy’r llywodraeth ranbarthol ddim yn gwneud dim am y sefyllfa. Rhyw 45% o boblogaeth y diriogaeth sy’n siarad y Gatalaneg, gyda’r iaith ar ei chryfed yng Nghanol y rhanbarth, ac ar ei waned yn ninas Alacant (Alicante). Mae’r canran yn prysur edwino, diolch i bolisïau’r llywodraeth, sydd newydd gau dwy sianel radio a sianel deledu oedd yn darlledu trwy gyfrwng y Gatalaneg, yn ogystal â rhwystro signal Catalunya Ràdio a TV3, teledu Catalunya, rhag cyrraedd y diriogaeth.

‘Gwanhau’

System debyg i Gatalwnia sydd gan Ynysoedd y Balearig (Mallorca, Menorca, Eivissa a Formentera) sef trochi plant yn y Gatalaneg. Yn ddiweddar, fodd bynnag, pasiodd llywodraeth yr ynysoedd ddeddf i ddiwygio’r system addysg, gan adael traean y gwersi yn Sbaeneg, traean yn y Gatalaneg a thraean yn Saesneg. Byddai hyn yn gwanhau’r model presennol ac yn ychwanegu at y tebygolrwydd na fydd nifer o blant yr ynysoedd yn rhugl eu Catalaneg mewn blynyddoedd i ddod. Ddoe, fe orffennodd Jaume Sastre, athro o Mallorca, ympryd o 40 diwrnod i geisio perswadio llywodraeth geidwadol yr ynysoedd i beidio â newid y sustem bresennol o drochi. Cafodd Jaume a’i frwydr floedd o gefnogaeth yn y rali ar ddiwedd y brotest ar ddydd Sadwrn, a gwelwyd nifer yn gwisgo crysau-T gwyrdd penodol i gefnogi streic hir athrawon yr Ynysoedd.

Dengys y fath brotest bod cymdeithas sifil hynod o gref yng Nghatalwnia, un a eginodd yn ystod unbennaeth Franco a dechreuodd fwrw ei gwreiddiau yn nyddiau anodd y newid i ddemocratiaeth yn y saithdegau. Er bod y sefyllfa yn dra gwahanol yn nhiriogaethau eraill y Gatalaneg, mae mudiadau yn medru ysbrydoli pobl fel y dangosodd protest enfawr dros yr iaith yn Palma (Mallorca) ym mis Medi.

‘Gwawd’

Yn bennaf, mae’n gwbl amlwg nad oes ofn gan gymdeithas sifil na phleidiau gwleidyddol i awgrymu mesurau radical i amddiffyn yr iaith ac i sicrhau bod pob person yn cael y cyfle i’w dysgu. Er gwaethaf y bygythiadau presennol tuag at y Gatalaneg, mae’n eglur nad yw’r iaith yn destun sbort neu wawd fel y gall fod yng Nghymru. Prin y gellir dychmygu rhaglen drafod ar radio cyhoeddus Catalwnia neu Mallorca yn gofyn a ydy’r Gatalaneg yn merwino clustiau rhywun neu a ddylai gwyliau diwylliannol fod yn ddwyieithog er mwyn peidio brifo teimladau pobl nad sy’n rhugl yn yr iaith.

Mae’n hen bryd i ni hefyd ddechrau sefyll i fyny yn erbyn ymosodiadau di-sail ar y Gymraeg ac amddiffyn yr iaith fel elfen hanfodol o’n cenedl sy’n berchen i bob dinesydd Cymreig.