Gwenllian Elias
Gohebydd golwg360 Gwenllian Elias sy’n pendroni dros gwestiwn a ofynnwyd gan Radio Wales sydd wedi corddi’r dyfroedd ar wefannau cymdeithasol…

Fe ofynnodd Radio Wales ddoe a ddylai Eisteddfod yr Urdd fod yn ŵyl ddwyieithog er mwyn annog mwy o bobl  sydd ddim yn siarad Cymraeg i ymweld â’r maes.

Dwi i ddim yn meddwl i mi erioed ateb yr un cwestiwn yn gynt. Na.

Dathlu’r Gymraeg a thalentau’r Cymry yw pwrpas yr Eisteddfod a gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r holl bwynt. Y Gymraeg sy’n gwneud Eisteddfod yr Urdd, a’r Genedlaethol, yn unigryw.

Fe wnaeth y cwestiwn sbarduno dipyn go lew o ymateb ar trydar hefo rhai pobol yn llunio cymhariaeth rhwng cyflwyno pêl-droed i gystadleuaeth y Chwe Gwlad er mwyn denu cefnogwyr sydd ddim yn dilyn rygbi.

Ymysg yr ymatebion oedd cwestiwn arall: “Os nad yw’r rhan fwyaf o’r bobol sy’n byw yng Nghymru yn siarad Cymraeg, beth yw’r pwynt cael gŵyl lle mai dim ond siaradwyr Cymraeg sy’n gallu mynychu?” Cwestiwn sy’n adlewyrchu ochr arall y ddadl gan rywun sydd ddim yn siarad yr iaith – yn ddigon teg.

Ond mae arolwg ar ôl arolwg wedi profi mai’r ffordd orau i ddysgwyr gyfarwyddo hefo iaith newydd yw trochi eu hunain yn niwylliant ac iaith y wlad honno. Fe ddywedodd yr ieithydd Noam Chomsky fod gan bawb y gallu i ddysgu iaith – ac mae’n ymddangos mai agwedd neu ansicrwydd sy’n dal rhywun yn ôl rhag gwneud hynny.

Ac mae croeso i bobol o bob gwlad, hil neu ddiwylliant ymweld â’r maes – does dim prawf wrth giatiau’r fynedfa sy’n croesholi ymwelwyr am sut i fod yn Gymro Glân Gloyw. Mae’n ffordd grêt o glywed yr iaith yn byrlymu a dwi’n siŵr fod posib deall beth sy’n mynd ymlaen gyda ‘chydig o amynedd a pharch. Pam ddim mentro gwneud hynny yn hytrach na disgwyl pob cyfieithiad ar blât?

Dw i newydd dreulio deuddydd yng Ngŵyl y Gelli ger Aberhonddu – gŵyl sy’n rhoi pwyslais chwannen ar yr iaith Gymraeg. Fe wnes i orfod brathu fy nhafod pan ddywedodd Saesnes wrtha’i ei bod hi’n meddwl ei fod yn gywilyddus nad oedd mwy o Gymraeg i’w glywed yno. Ond fyddai dim diben mewn awgrymu i drefnwyr yr ŵyl ei gwneud hi’n ddwyieithog.

Ymfflamychol

Ar ôl yr ymateb chwyrn fuodd i raglen ‘Morning Call’ gan Radio Wales yn gofyn fis diwethaf, “A yw’r iaith Gymraeg yn eich cynddeiriogi chi?”, roeddwn wedi fy siomi fod Radio Wales unwaith eto yn gofyn yr un math o gwestiwn ymfflamychol am y Gymraeg. Efallai mai ceisio awgrymu ffordd i drefnwyr Eisteddfod yr Urdd ddenu mwy o bobol i ddysgu’r iaith oedd gwraidd y cwestiwn, sydd wrth gwrs yn beth da, ond nid trwy wanhau traddodiad hanesyddol Cymreig mae gwneud hynny. Mae angen pob ymdrech i warchod a chadw’r traddodiad yn fyw.

Mae gan bob Cymro a Chymraes ddyletswydd a chyfrifoldeb i hybu’r iaith felly i ategu’r hyn ddywedodd Menna Machreth mewn ymateb i gwestiwn Radio Wales – beth am i Radio Wales fod yn ddwyieithog gyntaf?