Crwban mawr
Mae crwban mawr, yr olaf o’i fath, wedi marw ym Mharc Cenedlaethol y Galapagos yn Ecwador.

Roedd ‘Lonesome George’ yn dipyn o atyniad i ymwelwyr â’r parc am fod lle i gredu mai ef oedd yr olaf o’r math Pinta o grwban yn y byd.

Mae gwyddonwyr yn credu ei fod wedi cyrraedd ei gant oed, ac roedd disgwyl iddo fyw am rai degawdau eto.

Roedd gwyddonwyr wedi ceisio ei baru ers 1972, ond ofer fu’r ymdrechion.

Roedd yn byw mewn canolfan sy’n arbenigo mewn bridio crwbanod ar un o ynysoedd Santa Cruz.

Dywedodd y parc y byddai’n ymchwilio i’w farwolaeth.

Cafwyd sawl ymgais hyd at y llynedd i’w baru gyda’r math tebycaf o grwban i’w fath ef.

Lleihawyd nifer y crwbanod yn y Galapagos gan y boblogaeth ddynol ond cafwyd cynnydd ers 1974 o 3,000 i 20,000 yn sgil cynllun ar y cyd rhwng Sefydliad Charles Darwin a’r parc.