Trigolion Caerdydd yw’r rhai sy’n fwyaf tebygol o gael grefi ar eu cinio dydd Sul, yn ôl arolwg newydd o arferion trigolion dinasoedd gwledydd Prydain.

I lawer, mae grefi yn rhan hanfodol o unrhyw ginio rhost ar y Sul, ond dyw hynny’n sicr ddim yn wir ym mhob man, yn ôl Satsuma Loans.

Mae’r arolwg o 2,000 o bobol yng ngwledydd Prydain yn dangos mai pobol Caerdydd yw’r rhai sydd yn caru grefi fwyaf, gyda 90.8% o’r rhai wnaeth ymateb yn dweud y bydden nhw am gael grefi ar eu cinio dydd Sul.

Newcastle oedd yn ail agos (86.5%).

Ar ben arall y tabl, pobol yn Leeds sydd lleiaf hoff o grefi, gyda dim ond 58.6% yn dweud ei fod yn rhan hanfodol o ginio dydd Sul.