Mae cwmni theatr Hijinx, o Gymru, wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr fawreddog Theatr Ryngwladol 2019 gan gylchgrawn The Stage.
Mae’r wobr yn cydnabod y cwmnïau theatr hynny sydd wedi creu’r effaith fwyaf wrth gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol dramor neu wrth ddod â gwaith i wledydd Prydain.
Mae Hijinx yn hyfforddi 70 o oedolion sydd ag anableddau dysgu i fod yn actorion proffesiynol.
Blwyddyn lwyddiannus yn 2018
Mae’r cwmni, o dan arweiniad y Prif Weithredwr Clare Williams a’r Cyfarwyddwr Artistig Ben Pettitt-Wade, wedi teithio ar draws Ffrainc, yr Almaen, gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Swistir, Sgandinafia, yr Unol Daleithiau a Tsieina gyda’r sioe Meet Fred yn ystod 2018.
Yn ogystal, maen nhw wedi bod â phedwar actor a Syndrom Down i Lesotho yn ne Affrica er mwyn creu cynhyrchiad gyda phobl ifanc anabl y wlad.
Rhoddwyd cyfle iddynt hefyd i greu perthynas newydd a sefydliadau yn Shanghai a Singapôr – fe fyddan nhw’n gweithio gyda’r rhain i greu model Academi Hijinx yn Nwyrain Asia.
“Cydnabod dawn ein hactorion”
“Rydyn ni wrth ein bodd o gael ein henwebu ar gyfer y wobr hon,” meddai Ben Pettitt-Wade a Clare Williams io’r cwmni. “Mae’n wobr sy’n cydnabod dawn ein hactorion a’u cydweithrediad nodedig wrth greu theatr wych sydd â galw mawr amdani ar draws y byd.”
Fe fydd Hijinx yn agor eu cynhyrchiad diweddaraf, Into the Light, yn Theatr y Sherman ym mis Chwefror.
Mae’r ddrama yn cynnwys cast o berfformwyr niwroamrywiol a niwrogyffelyb o Gymru, Sbaen a’r Eidal a bydd y sioe yn mynd ar daith ar draws y Ynysoedd Prydain cyn mynd ymlaen i’r Eidal a Hong Kong.