Cimwch cyffredin, o liw anghyffredin (Llun: Sw Mor Mon)
Fe gafodd bywyd cimwch oren llachar ei arbed gan fwyty yr wythnos hon… ac mae bellach yn rhan o waith ymchwil yn Sŵ Môr Môn.

Mae ymchwilwyr yn awyddus i weld beth fydd lliw epil y cimwch sy’n cario wyau – ac maen nhw eisiau gwybod, yn fwy na dim, faint o’r genhedlaeth nesaf fydd o’r un lliw â’u mam.

Fe dorrodd y stori am y cimwch oren ganol yr wythnos, pan sylweddolodd cogydd bwyty’r Lobster Pot ym Mhorth Swtan ei fod wedi derbyn fersiwn oren llachar o gimwch cyffredin yng nghanol y degau y mae’n eu coginio’n wythnosol ar gyfer ei gwsmeriaid.

Yn lle ei goginio, fe anfonodd y cimwch ugain milltir i lawr yr A55 o ogledd i dde-ddwyrain yr ynys, i gael ei warchod a’i werthfawrogi.

A dyna sut y daeth Sŵ Môr Môn ar draeth Y Foel ger pentref Brynsiencyn, sydd hefyd yn gartref i Ddeorfa Cimwch Cymru, i ofalu am y creadur prin.

“Mi gawson ni ychwanegiad cyffrous iawn i’r teulu yr wythnos yma,” meddai’r Sŵ, “pan ddaeth cimwch cyffredin (homaus gammarus) o liw oren llachar anghyffredin yma! Fel arfer, rhyw liw glas tywyll neu wyrddfrown ydi cimwch, nes ei fod yn cael ei ferwi a’i goginio gan droi’n binc-oren.

“Mae yna fersiwn glas llachar, sy’n brin iawn, ac mae yna debygolrwydd o 1 mewn dwy filiwn y daliwch chi un o’r rheiny… ond dyma’r tro cyntaf ereioed i ni gael un lliw oren llachar, ac rydan ni’n tybio fod y tebygolrwydd o ddal un o’r rhain yn 1 mewn 30 miliwn.

“Yr unig fath o gimwch sy’n brinnach na’r rhain, ydi’r cimwch albino, ac mae’r tebygolrwydd o ddal un o’r rheiny yn 1 mewn 100 miliwn!”

Be’ nesaf i’r cimwch? 

Fe fydd y cimwch oren yn dod yn rhan o ymchwil Deorfa Cimwch Cymru – yn enwedig wedi iddyn nhw gadarnhau fod y fenyw hon yn cario wyau.

“A’r cwestiwn ar wefusau yr ymchwilwyr ym Môn,” medden nhw, ydi “tybed pa liw fydd yr epil?

“Rydan ni’n cydweithio gyda physgotwyr lleol ym Môn ac yng ngogledd Cymru er mwyn ceisio gwneud yn siwr fod y stoc pysgod a bywyd mor yn gynaladwy,” meddai’r Sŵ.

“O ran cimwch, ein nod ni ydi bridio er mwyn eu rhyddhau nhw ac ail-stocio dyfroedd lleol. Rydan ni wedi rhyddhau tua 3,000 o gimwch ifanc ers dechrau ar y prosiect yma.