Mae cefnogwyr criced yn Lord’s wedi eu rhybuddio rhag peryglu diogelwch chwaraewyr wrth agor poteli siampên.
Fe fydd Lloegr yn herio Pacistan mewn gêm undydd yfory, ac mae’r MCC (Clwb Criced Marylebone) wedi gofyn i’w haelodau beidio ag agor poteli siampên o’u seddau tra bod y chwaraewyr ar y cae.
Dywed y clwb eu bod nhw wedi clywed gan rai chwaraewyr sydd yn gofidio am eu diogelwch.
Lord’s yw’r unig gae rhyngwladol lle mae hawl gan gefnogwyr i ddod ag alcohol i mewn gyda nhw.
Ond mae poteli siampên hefyd yn cael eu gwerthu yn y stadiwm am gannoedd o bunnoedd.
Mae Lord’s yn adnabyddus am gefnogwyr sy’n mynd i hwyliau wrth i stiwardiaid orfod mentro i ymyl y cae i gasglu corc sydd wedi glanio ar y cae.
Yn ôl gwefan Veuve Clicquot, y siampên sy’n bennaf gysylltiedig â Lord’s, cafodd mwy na 3,000 o boteli eu gwerthu yn ystod gêm brawf yng Nghyfres y Lludw rhwng Lloegr ac Awstralia yn y cae hanesyddol y llynedd.