Mae gwaith adnewyddu mawr, costus ar y gweill yn Nhŷ Opera Sydney, er mwyn gwella’r acwsteg y mae cantorion wedi bod yn cwyno cymaint yn ei gylch.

Fe ddaeth cyhoeddiad gan yr awdurdodau yn nhalaith New South Wales yn dweud fod $202m (£120m) o brosiect ar droed i wella’r tŷ opera a agorwyd yn 1973 ac sydd gydag un o’r adeiladau mwya’ eiconig yn y byd.

Fe fydd y gwaith yn cynnwys creu mynedfa newydd sbon ac adnewyddu rhai o’r gofodau perfformio, ynghyd â’r Neuadd Gyngerdd. Oherwydd, er bod y tu allan i’r adeilad wedi’i ganmol am y siap hwyliau enwog, mae’r tu mewn wedi bod yn destun dadlau a chwyno gan gerddorion ar hyd y blynyddoedd.

Yn 1999, roedd un o gerddorfeydd symffoni gorau Awstralia wedi bygwth boicotio’r lle, gan ddweud fod yr acwsteg yn amsugno sŵn ac egni o’u perfformiadau.