Mae’r gêm gyfrifiadurol ‘Word Tango’ ar gael yn y Gymraeg erbyn hyn, diolch i gwmni o’r Iseldiroedd.
Mae Smiling Cube Studios wedi cyhoeddi fersiwn newydd o’r gêm mewn wyth iaith – gan gynnwys y Gymraeg a’r Gernyweg.
Mae hi ar gael ar yr iPhone, iPad ac Android.
Nod y gêm yw llenwi bylchau i gwblhau geiriau er mwyn symud ymlaen i’r lefel nesaf. Does dim terfyn amser er mwyn cwblhau lefelau, ac mae nifer amhenodol o lefelau ar gael.
Un o brif amcanion y cwmni wrth greu gemau yw helpu i wella sgiliau iaith chwaraewyr.
Cefnogi ieithoedd
Ac mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw’n cefnogi’r gallu i ddefnyddio nifer o ieithoedd wrth chwarae gemau cyfrifiadurol.
“Dim ond yn rhai o brif ieithoedd y byd y mae modd chwarae llawer o gemau sy’n seiliedig ar bosau, ond mae nifer o bobol yn siarad ieithoedd gwahanol.
“Rydym yn credu bod yn well gan bobol chwarae yn eu hiaith eu hunain. Ein nod yw cefnogi dros 100 o ieithoedd bach a mawr yn 2019.”
Mae Word Tango ar gael mewn wyth iaith – Saesneg, Cymraeg, Cernyweg, Daneg, Ffaröeg, Islandeg, Iseldireg a Ffrisaidd.