Mae’n bwysig ein bod yn clodfori a chofio pobol o fyd gwyddoniaeth yn ogystal â byd y celfyddydau, yn ôl mathemategydd blaenllaw o Fangor.
 hithau’n ‘Ddiwrnod Pi Cymru’, fe fydd yr Athro Gareth Ffowc Roberts yn nodi’r achlysur trwy gynnal darlith ar y mathemategydd, William Jones.
Dyn yn enedigol o Ynys Môn oedd William Jones, ac ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r symbol ‘π’ i ddynodi pi – rhif sydd bellach yn ymddangos ym mhob maes mathemategol.
A gan fod Cymru’n gartref i sawl ffigwr mawr yn hanes mathemateg – gan gynnwys Robert Recorde, y dyn wnaeth gyflwyno ‘=’ – mae Gareth Roberts yn pryderu bod yna le i wella o ran eu cofio.
Gwlad y gân yn unig?
“Mi rydym ni [yn wael] ond rydym ni’n gwella,” meddai wrth golwg360. “Ac mae’r ymwybyddiaeth yn dechrau codi. Achos y traddodiad ydi mai gwlad y gân yw Cymru a dyna fo.
“Tra mewn gwirionedd, mae nifer fawr o bobol dros y blynyddoedd wedi cyfrannu at y gwyddorau – mathemateg a gwyddorau eraill – dros y blynyddoedd.
“Ac mae’n bwysig bod ni’n dod yn fwy ymwybodol o gyfraniad Cymru at ein diwylliant llawn, nid dim ond i ran o’r diwylliant hwnnw. Er mor bwysig ydy honno wrth gwrs.
“Mae yn bwysig ein bod yn cwmpasu’r holl elfennau o’n diwylliant Cymraeg a’n ymwybyddiaeth o beth ydy o i fod yn Gymro.”
Mae’r athro yn cydnabod bod ymwybyddiaeth o gyfraniad Cymry at fathemateg yn “ymledu”, ac yn canmol cyfraniad Llywodraeth Cymru at nodi Mawrth 14 yn ‘Ddiwrnod Pi Cymru’ yn swyddogol.
William Jones
Cafodd William Jones ei eni yn 1675 mewn pentref ger Benllech o’r enw Llanfihangel Tre’r Beirdd.
Er ei wreiddiau gwerinol, enillodd nawdd teulu bonheddig oherwydd ei ddawn, a dros amser daeth i fod yn ffigwr “dylanwadol iawn” o fewn y cylch mathemateg, yn ôl yr Athro.
Gallwch glywed rhagor am hanes a chefndir y mathemategydd yn y clip hwn…