Mae adolygiad annibynnol wedi cefnogi datblygu morlyn cyntaf o’i fath yn y byd ym Mae Abertawe, gan ddweud y gallai’r dechnoleg chwarae “rôl cost effeithiol” wrth gynhyrchu ynni.

Galwodd cyn Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth Prydain, Charles Hendry, ar y Llywodraeth i fwrw ymlaen â’r cynllun.

Yn ôl yr adolygiad, bydd y cynllun yn sicr o arwain at dwf yn economi’r ardal ar ôl adeiladu’r morlyn arloesol.

Ond dywedodd Charles Hendry hefyd fod angen prosiect o rannu arferion da cyn gallu symud ymlaen at gynlluniau mwy o faint.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r adroddiad gan ddweud ei fod yn rhoi “cyfleoedd sylweddol” i Gymru.

Cynllun Abertawe – cam yn nes

Mae’r newyddion yn golygu bod y cwmni ynni adnewyddadwy, Tidal Lagoon Power, gam yn nes at sicrhau cymhorthdal gan Lywodraeth Prydain ar gyfer y morlyn yn Abertawe fydd yn costio £1.3 biliwn.

Fe fyddai’r morlyn yn cynnwys adeiladu morglawdd siâp U ar yr arfordir, gydag olwynion dŵr i geisio casglu llanw’r môr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae’r bobol y tu ôl i’r prosiect yn dweud y gallai’r morlyn newydd gynhyrchu digon o ynni ar gyfer 155,000 o dai am 120 o flynyddoedd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn croesawu cyhoeddi’r adolygiad Hendry i ddichonoldeb ac ymarferoldeb ynni morlynnoedd yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn amlwg yn rhoi cyfleoedd sylweddol posib i Gymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae morlynnoedd yn rhoi cyfle i gyfrannu at dyfu diwydiant Cymreig bywiog sy’n sicrhau ffyniant wrth gefnogi ein hamcanion datgarboneiddio.

“Byddwn yn ystyried cynnwys yr adroddiad ac yn edrych ymlaen at drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ffordd y maen nhw’n bwriadu symud ymlaen.”