Mae gwyddonwyr yn America gam yn nes at ddarganfod gwellhad i gyflwr alopesia, ar ôl profion peilot llwyddiannus ar bobol.

Fe wnaeth gwallt y rhai gafodd eu profi dyfu nol o fewn pum mis iddyn nhw gymryd y cyffur ruxolitinib, sy’n cael ei roi ar ffurf pilsen.

Cyflwr sy’n arwain at i wallt rhywun ddisgyn allan yn llwyr neu’n rhannol yw alopesia. Un o’r dioddefwyr fwyaf amlwg yw’r cyflwynydd teledu Gail Porter, wnaeth wrthod gwisgo het neu wig wedi iddi golli ei gwallt.

Dywedodd arweinydd yr ymchwil, Dr Raphael Clynes o Ganolfan Feddygol Prifysgol Columbia yn Efrog Newydd:

“Rydym ond newydd gychwyn y profion gyda chleifion, ond os yw’r cyffur yn parhau i fod yn llwyddiannus ac yn ddiogel, fe fydd yn cael effaith bositif ddramatig ar fywydau pobol sy’n dioddef o’r cyflwr.”

“Mae angen i ni wneud mwy o ymchwil i sefydlu os dylid defnyddio ruxolitinib, ond mae hyn yn newyddion cyffrous i gleifion a meddygon.”