Mae mudiad iaith wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn anonest am safbwynt Llywodraeth Cymru ar enw’r Senedd, cyn pleidlais ar y mater heddiw (dydd Mawrth, Hydref 8).
Ym mis Gorffennaf eleni, holodd dirprwyaeth o’r Gymdeithas y Prif Weinidog am ei farn am enw uniaith i’r Senedd. Yn ôl y mudiad, roedd ei ymateb yn ddiamheuol ei fod yn cefnogi enw uniaith. Fodd bynnag, mewn cyfweliad gyda’r wasg ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n pleidleisio dros enw dwyieithog.
“Mae sawl aelod o’r Gymdeithas wedi ystyried Mark Drakeford fel gwleidydd egwyddorol ac anrhydeddus. Ond mae’n ddrwg gen i ddweud ei fod wedi bod yn anonest ar y mater yma,” meddai Osian Rhys, cadeirydd y gymdeithas.
“Yn ein cyfarfod gyda fe ym mis Gorffennaf, roedd yn hollol glir i ni ei fod yn cefnogi enw uniaith. Yn wir, aeth e mor bell â beirniadu gwleidyddion eraill sy’n mynnu cyfieithu enw uniaith Gymraeg ‘Trefnydd’ Llywodraeth Cymru i’r Saesneg. Soniodd e ddim am unrhyw amheuon oedd gan y Llywodraeth ar y mater. Mae e wedi’n camarwain ni a phobl Cymru.”
“Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel ‘y Senedd’ yn barod, yn y ddwy iaith – fel maen nhw’n ymfalchïo wrth ganu geiriau Cymraeg ein hanthem genedlaethol. Mae gan bawb yr hawl i fwynhau’r pethau unigryw Gymraeg yma – a does gan neb hawl i ddweud nad ydyn nhw’n perthyn i ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg hefyd. Drwy osod enw Saesneg ar y Senedd, fe fyddai, yn anochel, yn normaleiddio’r enw hwnnw ac yn tanseilio defnydd o’r enw Cymraeg.”
“Os gall pawb ddweud ‘Dáil’ neu ‘Bundestag’ heb yr angen am enw swyddogol Saesneg – pam na allwn ni wneud yr un peth gyda ‘Senedd’? Galwn ar ein gwleidyddion i ddangos hyder yn iaith unigryw Cymru a hyder yn holl bobl Cymru – boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio – drwy roi enw uniaith Gymraeg ar ein Senedd, enw Cymraeg fydd yn perthyn i bawb.”