Mae Sinn Fein wedi datgan y bydd yn cydweithio gyda phleidiau eraill sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewreopeaidd ,er mwyn herio ymgeiswyr y DUP mewn unrhyw etholiad cyffredinol brys.

Fe ddaeth cadarnhad gan is-lywydd y blaid, Michelle O’Neill, nad yw hi’n ymwrthod â’r syniad o gydweithio gyda phleidiau “meddwl agored” eraill er mwyn ceisio ennill y nifer mwyaf o seddi yng Ngogledd Iwerddon.

“Yn amlwg, rydyn ni’n symud yn gyflym iawn tuag at etholiad, ac mae tim Sinn Fein yn barod i ymladd yr etholiad,” meddai.

“Brexit fydd prif bwnc yr etholiad, ac fe fyddwn ni’n ymladd yr ymgyrch yn galed yn erbyn y Ceidwadwyr a’r DUP sy’n cynnig dim byd da i bobol Iwerddon. Dydyn nhw’n cynnig dim byd i’n heconomi, a dim byd i’r broses heddwch chwaith.”