Mae Canghellor y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi cyhoeddi ei fod yn troi ei gefn ar fesurai llym ei ragflaenwyr, a’i fod am gynyddu’r gwariant ar wasaaethau cyhoeddus.

Yn ei ddatganiad ariannol heddiw (dydd Mercher, Medi 4) mae Sajid Javid yn honni mai “blaenoriaethau’r bobol” ydi ei flaenoriaeth yntau.

Mae iechyd ac addysg ymysg y sectorau y mae’r Canghellor yn awyddus i’w hybu gyda gwariant uchelgeisiol cyn etholiad posib y mis nesaf.

“Rydyn ni’n troi’r ddalen ar gyni ariannol, ac yn dechrau ar ddegawd newydd o adnewyddu,” meddai Sajid Javid yn Nhy’r Cyffredin.

Mae cyhoeddiad y Canghellor wedi cael ei farnu gan John Bercow, Llefarydd y Ty, wrth iddo honni ei fod yn gwyro i ffwrdd o fater gwariant.