Fe fu Cymdeithas Cledwyn yn cyfarfod yn stondin Prifysgol Bangor ar Faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Mawrth, Awst 6) ac yn holi ‘Ai Brexit yw argyfwng mwyaf y ganrif?”
Yno yn siarad oedd Aelod Seneddol Llafur, Susan Elan Jones, yr Athro Merfyn Jones a’r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, sy’n honni y gall Gymru droi yn annibynnol “heb ddewis.
“Brexit yw’r argyfwng mwyaf ryden ni wedi gweld erioed, hyd yn oed ers diwedd yr Ail Ryfel Byd,” meddai Carwyn Jones.
“Mae hedyn Brexit gwael yn cario hedyn dinistrio’r Deyrnas Unedig achos un o’r pethau sydd yn fyw nawr yw – ym mha ffordd all gwledydd Prydain ymdopi a sefyllfa lle mae’r pwerau yn dod o Frwsel.
“Mae ffrae wedi bod yn barod rhwng Llundain a Brwsel ynglŷn â lle mae’r pwerau hynn y yn mynd, ac fe fydd y ddadl honno yn parhau.”
“Beth yw’r Deyrnas Unedig?”
Yn ôl Carwyn Jones mae pobol nawr yn dechrau cwestiynu “beth yw’r Deyrnas Unedig?
“Mae ‘na heriau mawr, nid yn unig am fasnach a ffiniau, ond am y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i bawb feddwl bod rheswm i fod yn rhan ohoni os oes bodolaeth iddi.”
“Dydw I ddim o blaid annibyniaeth, ond mae’n rhaid i ni feddwl am syniadau bedair blynedd yn ôl oedd falle ddim am ddigwydd.”
Mae Carwyn Jones yn cyfeirio at y syniadau sy’n cynyddu yn Ngogledd Iwerddon ynglŷn ag ymuno ag Iwerddon.
“Mae pobol y Gogledd yn gweld bod y De yn llawer mwy rhyddfrydol ac agored na’r Gogledd.
“Hefyd, mae’r Alban yn galw am bleidlais dros annibyniaeth. Os bydd hyn yn digwydd, ni fyddai Cymru a Lloegr gyda’i gilydd ddim yn gweithio.
“Fe all Cymru droi yn annibynnol heb ddewis. Felly mae’n rhaid i ni baratoi at bopeth,” meddai Carwyn Jones.