Does “dim rhesymau technolegol” tros wahardd cwmni Huawei o Tsieina o rwydwaith 5G gwledydd Prydain, yn ôl y Pwyllgor Dethol Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Wright, mae cadeirydd y pwyllgor  Norman Lamb yn dweud nad oes tystiolaeth y byddai gwahardd Huawei o fod yn rhan o strwythur rhwydwaith ffonau gwledydd Prydain yn addas fel ymateb i’r pryderon am y cwmni.

Mae Huawei wedi cael ei gwestiynu am ei chysylltiadau i lywodraeth Tsieina, gyda rhai beirniaid yn dadlau y gall technoleg y cwmni gael ei ddefnyddio ganddynt i ysbio ar bobol yn y Gorllewin.

Mae’r cwmni wedi bod o dan adolygiad gan lywodraeth gwledydd Prydain ac mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud ar Huawei ar ddiwedd yr haf.

“Rydym wedi dod i’r casgliad nad oes unrhyw sail dechnegol dros wahardd Huawei yn gyfan gwbl o 5G neu rwydweithiau telathrebu eraill y Deyrnas Unedig,” meddai Norman Lamb.

“Mae manteision 5G yn glir a gallai gwahardd Huawei o’r rhwydweithiau presennol neu rwydweithiau’r dyfodol achosi oedi sylweddol.”

Er hyn mae’r pwyllgor yn teimlo bod ystyriaethau moesegol angen eu gwneud gan y llywodraeth cyn penderfynu defnyddio offer Huawei.huawei