Fe fydd mesurau diogelwch pellach mewn lle ar gyfer y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos nesaf, gan gynnwys canolfan gymorth newydd.
Bydd y ganolfan yn cael ei gweithredu o Neuadd y Strand, Llanfair-ym-muallt, ac yn cael ei defnyddio gan yr Uned Gwella o Alcohol, Heddlu Dyfed-Powys, Gweithwyr Ieuenctid Cyngor Sir Powys a Bugeiliaid Stryd.
Yn ôl Cyngor Sir Powys, mae’r mesurau newydd yn adeiladu ar y rhai a gyflwynwyd am y tro cyntaf y llynedd ar ôl i James Corfield, 19, o Sir Drefaldwyn gael ei ganfod yn farw yn Afon Gwy ddwy flynedd yn ôl.
Ymhlith y mesurau fydd yn dychwelyd eleni fydd y ‘llwybr gwyrdd’ o dref Llanfair-ym-Muallt i Faes y Sioe a’r mannau gwersylla, a bydd stiwardiaid ar ddyletswydd gyda’r hwyr i ddangos y ffordd i ymwelwyr o’r dref i’r lleoliadau.
Bydd hefyd ffens dros dro yn cael ei chodi rhwng y Gro ac afon Gwy er mwyn atal pobol rhag cael mynediad at lan y dŵr.
‘Gwella diogelwch y cyhoedd’
“Yn ôl arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd yn dilyn gwelliannau 2018, roedd 86% o’r rhai a atebodd o’r farn bod y mesurau diogelwch wedi gwella diogelwch y cyhoedd,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Powys.
“Yn dilyn sylwadau gan y cyhoedd, bydd Neuadd y Strand yn cael ei defnyddio eleni fel Canolfan Gymorth yn nhref Llanfair-ym-Muallt.
“Bydd yn gwella’r ddarpariaeth feddygol a lles yn y dref ac yn cynnig cyfleusterau meddygol a lles o un lleoliad.”
Bydd y Sioe Fawr yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 22 a 25.