Mae sylfaenydd y wefan WikiLeaks wedi methu ag ymddangos gerbron y llys heddiw (dydd Iau, Mai 30) wedi iddo gael ei symud i ward meddygol yn y carchar.

Roedd disgwyl i Julian Assange, 47, fynd o flaen ei well yn Llys Ynadon Westminster drwy gyfrwng linc fideo o Garchar Belmarsh.

Mae’n parhau i frwydro yn erbyn cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau yn sgil honiadau iddo gynllwyno i gael mynediad anghyfreithlon i gyfrifiadur yn y Pentagon.

Yn ystod y gwrandawiad, fe ddywedodd y prif ynad nad oedd y gŵr o Awstralia “mewn iechyd da”.

Ychydig oriau cyn hynny, fe ddywedodd WikiLeaks fod ganddyn nhw “bryderon difrifol” ynghylch iechyd ei sylfaenydd, sydd wedi cael ei symud i ward meddygol o fewn y carchar.

“Yn ystod y saith wythnos yn Belmarsh, mae ei iechyd wedi parhau i ddirywio ac mae wedi colli pwysau mewn modd dramatig,” meddai llefarydd.

“Mae’r ffaith bod awdurdodau’r carchar wedi ei symud i ward meddygol yn esbonio’r sefyllfa.”