Mae’r penderfyniad i wahardd Alastair Campbell o’r Blaid Lafur wedi iddo gyfaddef i gefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn cael ei adolygu.

Yn ôl twrne cyffredinol yr wrthblaid, Shami Chakrabarti, mae gan bleidiau “reolau awtomatig” ar gyfer pobol sy’n pleidleisio tros bleidiau eraill.

Ond mae wedi ychwanegu y gall cyn-bennaeth y wasg Tony Blair ddychwelyd i’r Blaid Lafur ar ôl cael ei wahardd dros y penwythnos.

Mae hi hefyd wedi cydnabod bod pobol wedi penderfynu pleidleisio yn erbyn Llafur am “resymau diffuant”, ac nad yw hi’n credu y dylai aelodau o’r Blaid Lafur gael eu gwahardd oherwydd hynny.

Mae’r penderfyniad i wahardd Alistair Campbell wedi bod yn amhoblogaidd ymhlith rhai o aelodau blaenllaw’r blaid, gan gynnwys y dirprwy arweinydd, Tom Watson, a ddisgrifiodd y cam fel un “sbeitlyd”.

Mae wedi galw am “amnest” ar gyfer yr aelodau hynny a gefnogodd bleidiau eraill yn yr etholiad Ewropeaidd.