Roedd ei dad yn bianydd ym mand y Llynges a fu’n ymladd mewn Rhyfel Byd, ac mae Alan Johnson yn dweud bod sicrhau heddwch ar dir mawr Ewrop yn ddigon o ddadl tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd heddiw.
Yn ystod sgwrs am ei bedwaredd gyfrol hunangofiannol yn ystod gwyl lenyddiaeth yn Wrecsam, mae’r cyn-Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, yn dweud ei fod yn credu mai camgymeriad ydi troi cefn ar undeb mwy nag un economaidd, lle mae 27 o wledydd yn fodlon eistedd i lawr o gylch y bwrdd yn trafod yn hytrach na chodi arfau.
“Roedd fy nhad yn gerddor – fel o’n i eisiau bod – ac roedd yn bianydd gyda nifed o fandiau’r Llynges… ond fe adawodd fy mam, fy chwaer a finnau.pan o’n i’n ifanc.
“Fe fu farw fy mam, wedyn, yn ei phedwardegau cynnar, ac mi ges i fy magu gan fy chwaer fawr, o’r adeg pan oedd hi’n ddim ond 16 oed, a finnau’n 12.
“Dw i’n ystyried fy hun yn lwcus am na fu’n rhaid i mi erioed feddwl am fynd i ryfel… ac mae’r diolch am hynny i’r Undeb Ewropeaidd, am lwyddo i gadw heddwch yn Ewrop.
“Gwneud yn siwr fod yna heddwch o fewn y cyfandir oedd y prif reswm tros sefydlu’r undeb, ac mae hynny’n gorfod bod yn bwysig iawn,” meddai Alan Johnson wedyn.
” A dweud y gwir, mae’n un o’r elfennau pwysicaf ynglyn ag Ewrop, i mi.”