Mae cyn-Ysgrifennydd Cartref llywodraeth Lafur Tony Blair yn dweud bod angen cydnabod faint o dlodi sy’n byw ochr yn ochr â chyfoeth yn ninas Llundain a thrwy weddill gwledydd Prydain.
Ar ymweliad â chanolfan gymdeithasol Gwersyllt, fel rhan o ŵyl eiriau Wrecsam eleni, mae Alan Johnson yn dwyn ar ei blenyndod ef ei hun i ddarlunio cymdeithas anghyfartal heddiw.
“Un o hogiau North Kensington ydw i,” meddai, “a dyna fydda i tra bydda’ i. Ardal dlawd iawn ydi hi.
“Ond mae rhai, yn enwedig y rheiny sydd am guddio’r tlodi, am wneud allan fod North Kensington bellach yn rhan o Notting Hill gerllaw – ardal sydd wedi cael ei datblygu hefyd…
“Ond mae Nottting Hill wedi bod yn ardal ffyniannus iawn erioed, yn wahanol iawn i North Kensington. A phan gofiwn ni mai yn North Kensington y mae bloc fflatiau Twr Grenfell, wel…
“Mae cyfoeth a thodi yn byw ochr yn ochr â’i gilydd, a dw i’n gwybod o’m profiad i fy hun yn tyfu i fyny yn North Kensington, dw i ddim yn gwybod be fasa wedi digwydd i mi heb y Wladwriaeth Les.
“Dyna pam y mae’n thaid i ni edrych ar ôl y gwannaf a’r tlotaf.”