Mae’r fun four o Tenby Road, Aberteifi, wedi creu eu can Nadolig cyntaf, sy’n galw arnom i feddwl am y “bobol lai ffodus” y Nadolig hwn
Enw’r gan yw ‘A Llawen Bydd Nadolig?’ ac mae’r geiriau yn sôn am y rheiny sy’n dioddef adeg y Nadolig – y bobol lai ariannog, y rhai ar y stryd, y di-waith a’r rhai unig.
“Rwy’n gofyn y cwestiwn ‘a hapus yw dy fywyd di?’ os wyt ti’n meddwl am y bobol lai ffodus ’ma, ti’n gwybod,” meddai Richard Jones, gitarydd a chanwr y band wrth golwg360.
“Mae hi’n gan abyti pobol sydd llai well off, y rough sleepers, pobol syn dibynnu ar food banks.”
“Mae’r un egwyddor yn y gan Nadolig wedyn yn son am ddilyn iachawdwriaeth,” ychwanegodd sylfaenwr Recordiau Fflach.
Terfyn blwyddyn gofiadwy
Cafodd fersiwn o’r gan ei ryddhau ar yn 2012 ar E.P, o dan yr enw ‘A Hapus Bydd Dy Fywyd?’ – yn eironig roedd y CD fod allan erbyn Nadolig 2011, gyda theitl Nadoligaidd, ond collwyd y dyddiad cau.
O’r diwedd, mae Ail Symudiad, oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 y flwyddyn hon, wedi llwyddo ei ryddhau fel sengl Nadolig chwe blynedd yn ddiweddarach.
Mae’n dod ar gefn flwyddyn bwysig i’r grŵp ar ôl nifer o gigs mewn amrywiaeth o leoliadau fel Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Nol a Mlan Llangrannog, Eisteddfod Caerdydd a Chlwb Canol Dre Caernarfon.
I gyd fynd a hyn rhyddhawyd CD o’r enw ‘Y Man Hudol’ yn ystod yr haf.
Dyma Richard ‘Fflach’ Jones yn trafod neges y sengl Nadolig:
https://www.youtube.com/edit?o=U&video_id=BWV0X7XgDuc