Mae’r artist graffiti, Banksy, wedi hawlio cyfrifoldeb am furlun newydd sydd wedi ymddangos ar garej yn ardal Port Talbot.
Mae’r murlun yn ardal Taibach yn dangos plentyn yn chwarae mewn lludw a mwg sy’n dod o dân mewn sgip.
Mae’n bosib fod llwch du oedd wedi gorchuddio’r dref ym mis Gorffennaf wedi ei ysbrydoli.
Cadarnhad
Ar ôl i ffens gael ei chodi o amgylch y murlun, mae neges wedi ymddangos ar dudalen Instagram yr arlunydd yn awgrymu mai ef yw’r artist.
“Cyfarchion yr Ŵyl,” meddai yn y neges, sy’n cynnwys fideo o’r murlun.
Ar ddiwedd y fideo, mae modd clywed cerddoriaeth Nadoligaidd a delweddau o weithfeydd Port Talbot.