Mae Cosofo wedi cael gwybod bod angen iddi ddechrau trafod gyda Serbia, cyn cymryd cam yn nes at ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Canghellor Awstria, Sebastian Kurz, wedi dweud ar ymweliad â dinas Pristina bod angen “trefniant heddychlon” rhwng Cosofo a Serbia cyn y gall y ddwy wlad fyw ochr yn ochr a rhoi sefydlogrwydd i’r ardal gyfan.

Mae Sebastian Kurz wedi bod yn Belgrad hefyd dros y deuddydd diwethaf, lle mae wedi rhybuddio Serbia bod aelodaeth o’r Undeb yn dibynnu ar wneud yn siwr fod mater Cosofo yn cael ei sortio.

Mae Cosofo a Serbia wedi bod yn trafod o gwmpas y bwrdd ers dros saith mlynedd, er mwyn ceisio dod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe gyhoeddodd Cosofo ei hannibyniaeth oddi wrth Serbia yn 2008, ond dydi Serbia ddim yn cydnabod y cam hwnnw.