Fe gafodd yr iaith Wyddeleg ei siarad am y tro cyntaf erioed yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mercher, Hydref 24) yn ystod araith gan Aelod Seneddol o Gymru.
Roedd Liz Saville-Roberts, sy’n cynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionydd, yn galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu Deddf Iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.
Wrth gyflwyno cwestiwn gerbron Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Karen Bradley, fe ddechreuodd Liz Saville-Roberts gyda brawddeg yn y Wyddeleg.
“Is cearta daonna iad cearta teanga agus tá cothrom na féinne tuilte ag lucht labhartha na Gaeilge,” meddai.
(“Mae hawliau ieithyddol yn hawliau dynol ac mae hawl gan y gymuned Wyddeleg i gael cydraddoldeb.”)
Aeth yn ei blaen wedyn i ofyn a fyddai Llywodraeth Prydain yn barod i weithredu’r ddeddf iaith pe na bai’r llywodraeth ddatganoledig yn Stormont yn cael ei ailsefydlu o fewn chwe mis.
Ymateb Karen Bradley oedd bod unrhyw benderfyniad ynglŷn â gweithredu’r ddeddf yn un ar gyfer Cynulliad Stormont.
Canmoliaeth
Mae’r mudiad iaith, Conradh na Gaeilge, wedi croesawu’r cwestiwn gan Liz Saville-Roberts, gan honni mai dyma’r tro cyntaf i’r Wyddeleg gael ei defnyddio o fewn Tŷ’r Cyffredin.
“Wrth i’r iaith Wyddeleg gael ei chlywed o gwmpas Tŷ’r Cyffredin heddiw, rydym yn gobeithio y bydd y neges o ‘hawliau dynol yw hawliau ieithyddol’ ar flaen meddyliau Llywodraeth Prydain a’r Aelodau Seneddol a oedd yn bresennol,” meddai Ciarán Mac Giolla Bhéin o Conradh na Gaeilge.