Mae Arlywydd y Ffilipinas, Rodrigo Duterte wedi cael ei feirniadu am alw Duw yn “dwp”.
Mae ffrae fawr wedi datblygu ar yr ynysoedd sy’n enwog am ei Chatholigiaeth, ar ôl i’r Arlywydd gwestiynu pam bod Duw wedi gadael i Adda ac Efa bechu yng Ngardd Eden. Aeth yn ei flaen wedyn i ofyn, “Pwy yw’r Duw twp hwn?”
Ers y sylwadau hyn, mae nifer wedi beirniadu’r Arlywydd, gydag un gwleidydd yn ei alw’n “ddyn dieflig”.
Mae un egsob Catholig, sef Arturo Bastes, hefyd wedi galw am weddïau i geisio dod â “chabledd” yr Arlywydd i ben.
Mae Rodrigo Duterte yn enwog am ei sylwadau dadleuol, ac mae eisoes wedi pechu’r Pab a chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Baack Obama.