Mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies wedi herio portread y BBC o un o’i ragflaenwyr, yr Arglwydd Emlyn Hooson.
Mae’r ddrama A Very English Scandal yn adrodd hanes sgandal yn ymwneud â chyn-arweinydd y Rhyddfrydwyr, Jeremy Thorpe, a rhan yr Arglwydd Hooson yn yr helynt.
Roedd yr Arglwydd Hooson yn Aelod Seneddol tros Sir Drefaldwyn rhwng 1962 a 1979, ac yn uchel ei barch fel gwleidydd, bargyfreithiwr a barnwr.
Dyna pam, yn ôl Glyn Davies, y mae portread y BBC ohono’n “gwbwl anghywir”.
‘Hoffus, talentog ac uchel ei barch’
“Mae’r portread o’r Arglwydd Hooson yn A Very English Scandal fel gwleidydd cynllwyngar, hunanol a dan-din yn hollol anghywir,” meddai Glyn Davies.
“Yn sicr, dyw e ddim yn cynrychioli’r dyn rwy’n ei gofio ac y des i’n ffrindiau da iawn ag e.
“Heb os, mae gwneuthurwyr y rhaglen wedi defnyddio rhywfaint o ryddid wrth geisio darlunio Jeremy Thorpe mewn goleuni ychydig yn fwy sympathetig o’i gymharu â sut gafodd ei ddarlunio yn y gorffennol.
“Ond mae’n ymdangos yn annheg iawn fod hyn ar draul cynrychiolaeth go iawn o’r diweddar Arglwydd Hooson, a oedd yn Aelod Seneddol a frwydrodd mor galed i amddiffyn buddiannau Sir Drefaldwyn, ac i hybu’r etholaeth.
“Fy mhrofiad i o’r Arglwydd Hooson, a phrofiad pawb o fewn Sir Drefaldwyn oedd yn ei adnabod, rwy’n siŵr, oedd ei fod yn wleidydd hoffus, talentog ac uchel ei barch – y gwrthwyneb yn llwyr i sut y caiff ei bortreadu yn y rhaglen.”